Social Worker - Looked After Children
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
-
Wrecsam
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £38,220 - £40,777 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl
Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Plant Sy'n Derbyn Gofal
G09 £38,220 - £40,777 y flwyddyn
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol cymwys sydd yn chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o fewn ein tîm Plant Sy’n Derbyn Gofal fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol sef £38,220 - £40,777 y flwyddyn pensiwn awdurdod lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i fod yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ar yr amod eich bod yn cyrraedd meini prawf penodol, a chymelldaliad recriwtio o £3,300.
Pam ymuno â Thîm Plant Sy’n Derbyn Gofal fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Mae’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal yn cynnwys cymysgedd o weithwyr cymdeithasol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso a phedwar Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd, sydd yn cefnogi ei gilydd. Mae cefnogaeth a mentora ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Reolwr Tîm a dau Reolwr Tîm Cynorthwyol. Rhagorol yw’r unig air i ddisgrifio’r swyddfa olau a helaeth ac mae’n hwyluso gwaith tîm effeithiol. Yr awyrgylch rhwng bob tîm yw parch gan gefnogi ei gilydd gyda’r weledigaeth a rennir i wella canlyniadau i’r plant yn Wrecsam maent yn eu cefnogi.
Rydym ni’n adran gymharol fach ac mae’r staff i gyd wedi’u lleoli ar un llawr yn yr adeilad, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws i ffurfio perthnasoedd proffesiynol. Rydym ni’n ffodus iawn fod gennym ni brosiect Gweithredu dros Blant yn Wrecsam, sydd yn darparu gwasanaethau therapiwtig i blant a phobl ifanc yn ogystal â gwasanaeth ymgynghori i weithwyr cymdeithasol.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r rhain yn galluogi staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau ystyriol ac sy’n cael effaith.
Mae’r rôl hwn yn cefnogi gweithio’n hybrid, cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Plant Sy’n Derbyn Gofal yn derbyn cymelldaliad recriwtio o £3,300 fel croeso i’r Cyngor.
Mae’r taliad yma’n pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae’r taliad yn destun didyniadau gweithiwr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol, gweler y nodyn Canllawiau Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra’n gweithio i’r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein