Dim ond unigolion sy'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, naill ai'n uniongyrchol neu drwy asiantaeth, sy'n cael ymgeisio ar gyfer y swydd hon.
CANOLFAN ADNODDAU TEGFAN, STRYD LLYWELLYN, TRECYNON, ABERDÂR, CF44 8HU
Tâl ychwanegol am weithio dros nos
Mae i Ganolfan Degfan ei dir ei hun yn ardal Trecynon - Aberdâr, o fewn pellter cerdded o orsaf fysiau.
Ydych chi'n unigolyn gofalgar sy'n dymuno helpu pobl ac sy'n chwilio am swydd Gofalu hyblyg? Os ydych chi, ymunwch â ni, rydyn ni'n chwilio am unigolion i ymuno â'n carfan ymroddedig.
Amdanom ni...
Rydyn ni'n darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 45 o unigolion sydd â diagnosis o ddementia. Rydyn ni'n cefnogi'n preswylwyr i gynnal sgiliau, yn annog annibyniaeth ac yn hyrwyddo urddas a phreifatrwydd ar bob achlysur. Rydyn ni'n parchu dewisiadau pobl ac yn annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau a theithiau cymdeithasol.
Rydyn ni'n wasanaeth wedi'i reoleiddio felly rydyn ni'n canolbwyntio ar annog anghenion gofal unigol a sicrhau bod cynlluniau wedi'u seilio ar ddeilliannau.
Y rôl...
Rydyn ni'n awyddus i glywed gan bobl sy'n ddibynadwy, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gweithio'n dda gydag eraill i weithio'n rhan o'n gweithlu gofal cymdeithasol.
Bydd dyletswyddau yn cynnwys cynorthwyo unigolion â phob agwedd ar eu trefn feunyddiol a diwallu anghenion trigolion/cleientiaid yn unol â'u cynllun gofal.
Darparu cyswllt cymdeithasol a chymorth emosiynol i breswylwyr/cleientiaid trwy ddulliau cyfathrebu effeithiol.
Diwallu anghenion gofal personol preswylwyr/cleientiaid mewn ffordd sensitif, gan gynnwys gwisgo, ymolchi, cael bath, tacluso, bwydo, mynd i'r tŷ bach, gofalu am ddillad ac eiddo personol.
Cymryd cyfrifoldeb am fod yn ymwybodol o safonau, polisïau a gweithdrefnau Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â darparu gofal yng Nghartrefi / Canolfannau Adnoddau'r Cyngor, a chadw atyn nhw.
Cynnal diogelwch yr adeilad gyda'r nos. Cynnal glanweithdra'r adeilad yn unol â rota glanhau.
Bydd angen rhywfaint o allu i siarad Cymraeg sylfaenol, ond byddwn ni’n cynnig hyfforddiant.
Bydd gan ymgeiswyr y swyddi yma agwedd gadarnhaol a dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio neu dreulio amser gyda phobl hŷn neu bobl ag anableddau/Dementia o fantais. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i gwblhau Fframwaith Sefydlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan, sef rhaglen sydd wedi'i dylunio i'ch paratoi chi ar gyfer eich rôl newydd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rhaid meddu ar yr ymroddiad i ymgymryd â chymhwyster QCF Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Buddion...
- Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i ariannu
- Aelodaeth cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru wedi'i thalu
- Cefnogaeth lawn a rhaglen hyfforddiant am ddim
- Cysgodi aelodau o staff profiadol yn ystod eich cyfnod sefydlu
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol am ddim gan gynnwys hunanatgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi a gwasanaeth cwnsela cyfrinachol
- Cynllun pensiwn gweithle hael
- Cerdyn buddion staff
- Mynediad at ostyngiadau Cerdyn Golau Glas
- Cyfleoedd i ddatblygu'ch gyrfa
Oes diddordeb gyda chi...?
Hoffech chi sgwrs anffurfiol neu fwy o wybodaeth? Cysylltwch â'n cartref a'n carfan reoli sy'n fwy na hapus i siarad â chi:
Canolfan Adnoddau Tegfan - Dawn Williams - (01685) 878485
Rydyn ni'n rhan o gynllun cyfweliad gwarantedig Gofalwn Cymru. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy anfon e-bost aton ni â chopi o dystysgrifau (Diogelu a Chyflwyniad i ofal cymdeithasol). Byddwn ni'n cysylltu â chi pan fyddwn ni wedi derbyn eich gwybodaeth.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.