Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cefnogaeth ar draws y Tîm Diogelu ac Adolygu ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,221 - £43,421 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydym yn chwilio am ymarferwr gwaith cymdeithasol profiadol i ymuno ag Adran Gwasanaethau Plant Cyngor Caerffili fel Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA).
Byddwch chi, ynghyd â thîm profiadol o SAAau, yn gyfrifol am sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei chlywed a’i hyrwyddo, gyda llais y plentyn yn ganolog i’w cynlluniau gofal a chymorth. Mae hon yn rôl heriol ond gwerth chweil, gyda'r gofyniad i sicrhau ansawdd cynlluniau gofal a chymorth yr awdurdod leol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n destun cofrestriad amddiffyn plant.
Ar gyfer y rôl hon gofynnwn i chi ddangos yn eich cais: - Cymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol
- Profiad sylweddol o waith cymdeithasol plant
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol
- Profiad a dealltwriaeth o amddiffyn plant
- Profiad a dealltwriaeth o'r broses plant sy'n derbyn gofal
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Gallu cynhyrchu adroddiadau i derfynau amser.
- Sgiliau gwneud penderfyniadau a barn
- Y gallu i herio'n briodol
- Y gallu i weithio o ddull amlasiantaethol seiliedig ar gryfder
Mae gan Wasanaethau Plant Caerffili gysylltiadau cryf â Gwasanaeth Ymlyniad Gwent ac mae Caerffili wedi buddsoddi yng Ngwasanaeth Therapiwtig MYST sy'n darparu cymorth dwys i'n Plant sy'n Derbyn Gofal.
Wrth ymuno â Thîm Caerffili, byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr a mynediad at hyfforddiant i hyrwyddo eich datblygiad proffesiynol parhaus a chefnogaeth gan uwch dîm rheoli gweladwy.
Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r profiad perthnasol i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a bod gennych chi angerdd ac ymrwymiad gwirioneddol i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Deborah Lewis, Cydlynydd Amddiffyn Plant ar 01443 864616 / 07899923974 neu ebost:
lewisdj1@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith