Lleoliad:-Tŷ Catrin, Pontypridd
Cyflog: £46,464
Oriau: 37 awr yr wythnos
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn chwilio am ymarferwr gwaith cymdeithasol profiadol ac ymroddgar i ymgymryd â swydd Swyddog Adolygu Annibynnol yn ein Carfan Diogelu ac Adolygu lwyddiannus.
Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn dilyn trefn gweithio hybrid gyda swyddfa yn Nhŷ Catrin, Pontypridd.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol wybodaeth arbenigol ddatblygedig iawn o ymarfer gwaith cymdeithasol yn y Gwasanaethau i Blant, a bydd ganddo/ganddi brofiad o gadeirio cyfarfodydd heriol ac o ddiogelu plant yn y llys.
Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio ym maes gofal plant, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
O'ch penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'r swydd yn gofyn am brofiad ôl-gymhwyso sylweddol, gan gynnwys lefel o brofiad yn Weithiwr Cymdeithasol. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol ym maes Gofal Cymdeithasol yn eu cyfweliad. Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Ceri Mann, Rheolwr y Garfan ar (01443) 490120.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Trefniadau gweithio hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion i staff
- Cerdyn gostyngiadau 'Vectis'
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi ym manyleb y person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.