Am Y Gwasanaeth
Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.
Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych brofiad perthnasol o weithio gyda a deall rolau Swyddog Adolygu Annibynnol a chadeirydd y Gynhadledd Amddiffyn Plant. Dylech hefyd allu dangos sgiliau cadeirio ac adolygu cynlluniau gofal.
Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfder, gan ddefnyddio Arwyddion Diogelwch. Mae gwybodaeth a phrofiad o'r dull hwn yn hanfodol, ond darperir hyfforddiant.
Am Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn angerddol a chreadigol ymuno â'n Hyb Adolygu newydd. Mae'r Hyb Adolygu yn dwyn ynghyd ein Gwasanaeth Diogelu ac Adolygu sefydledig, yn ogystal â gwasanaethau adolygu pwysig eraill. Mae swyddogaethau allweddol yr Hyb yn cynnwys y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, Cynadleddau Amddiffyn Plant, Adolygiadau Cynllun Gofal a Chymorth yn ogystal â swyddogaethau Diogelu pwysig eraill.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae’r Swyddog Adolygu Annibynnol a Chadeirydd y Gynhadledd Amddiffyn Plant yn rôl ddeuol, lle byddwch yn gyfrifol am adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth Plant sy'n Derbyn Gofal, yn ogystal â chadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant. Mae cyfleoedd i weithio'n hyblyg yn unol â pholisi gweithio hyblyg Caerdydd.
Mae Rheoliadau Lleoli Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 yn gofyn bod SAA yn cadeirio adolygiadau o blant sydd mewn lleoliad mabwysiadol cyn i orchymyn mabwysiadu gael ei roi; yn Derbyn gofal sy’n destun gorchymyn statudol neu mewn llety gyda chaniatâd rhiant a Phobl ifanc mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc sy’n destun Gorchymyn Gofal neu ar remánd fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol a Deddf Cosbi Troseddwyr 2012 (LASPO 2012)
Mae dealltwriaeth o 'Ganllawiau Safonau Ymarfer ac Arferion Da' AFA Cymru a Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn amlinellu ymhellach swyddogaeth y SAA a Chadeirydd y Gynhadledd Amddiffyn Plant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Prif ddyletswyddau deiliad y swydd fydd sicrhau eich bod yn canolbwyntio ar anghenion plant a sicrhau yr eir i’r afael â nhw, lleihau drifftio a gwirio cysondeb cynllunio gofal a phrosesau penderfynu.
Dylech fod yn Weithiwr Cymdeithasol profiadol cofrestredig, bod â phrofiad o weithio gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal yn ogystal â’r gallu i weithio o dan bwysau ac i derfynau amser ac amserlenni caeth. Mae sgiliau cyfathrebu a threfnu da yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Sara Jones neu Treena Morris drwy ffonio ffôn 029 22330900.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau