Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch nad yw'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd cynnal a chadw.

Swyddog Arweiniol Diogelu Mewn Addysg

Dyddiad cau 15/07/2026

Lleoliad

  • Sir Fynwy
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£50,269.00 - £54,495.00 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Hysbyseb Swydd

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg diogelu, gan sicrhau fod gan bobl ar bob lefel yr wybodaeth, sgiliau a’r hyder i roi cymorth, diogelu a rheoli risg yn effeithlon ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym yn edrych am Swyddog Arweiniol Diogelu mewn Addysg a Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar i barhau i gynnal a datblygu cyflenwi a chydlynu prosesau a hyfforddiant ansawdd uchel ar ddiogelu i sicrhau diogelwch a llesiant plant a phobl ifanc ar draws y sir. Yn seiliedig yn Uned Ddiogelu Gwasanaethau Plant, bydd y swydd hon yn cefnogi cydymffurfiaeth cydweithwyr yn yr adran Addysg gyda gofynion diogelu statudol a bydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr ar draws yr awdurdod lleol i sicrhau safonau uchel o ymarfer Diogelu.

Post Manylion

CYFLOG – GWYBODAETH BWYSIG: Byddai’r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):


Lleoliad: County Hall (Rhadyr - Usk), NP15 1GA, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig – Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol): 


GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i’r rôl hon wedi ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Both Children/Adults Barred List Checks

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.