Swyddog Arweiniol (Safonau a Grantiau Tai y Sector Preifat)
Gradd 10 | Swydd amser llawn barhaol
Lleoliad: Cyngor Sir Penfro
Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
Maes gwasanaeth: Diogelu’r Cyhoedd
Ynglŷn â’r rôl
Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am weithiwr proffesiynol tai profiadol a brwdfrydig i arwain ein Tîm Safonau a Grantiau Tai Sector Preifat.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan arweinyddiaeth allweddol wrth wella amodau tai, cynyddu argaeledd tai, cynorthwyo trigolion sy’n agored i niwed, a darparu atebion tai arloesol ledled Sir Benfro. Gan adrodd i’r Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd (Iechyd y Cyhoedd, Tai a Thrwyddedu), byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar gyfer gwasanaeth amrywiol sy’n gyfrifol am safonau tai’r sector preifat, gorfodi, grantiau cymorth tai, addasiadau, mentrau tai gwag, rhaglenni effeithlonrwydd ynni, a chynlluniau gwella tai.
Fel swyddog arweiniol, byddwch yn rheoli tîm o weithwyr proffesiynol tai a staff cymorth, yn goruchwylio rhaglenni grantiau a chyfalaf sylweddol, ac yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid tai, landlordiaid, datblygwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac aelodau etholedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol.
Prif gyfrifoldebau
Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:
- Arwain a rheoli’r Tîm Safonau a Grantiau Tai Sector Preifat.
- Goruchwylio gweithgareddau gorfodi a chydymffurfedd o dan ddeddfwriaeth tai, gan gynnwys asesiadau’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
- Rheoli grantiau cymorth tai, grantiau cyfleusterau i bobl anabl, rhaglenni addasu, a chynlluniau benthyciadau.
- Arwain rhaglen Cartrefi Gwag y cyngor, a mentrau adfer cartrefi gwag hirdymor i’w defnyddio eto.
- Cymell prosiectau effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio a gwella cartrefi.
- Rheoli cyllidebau gwasanaethau, cyllid grantiau a rhaglenni gwariant cyfalaf.
- Datblygu polisïau, gweithdrefnau a mentrau gwella gwasanaethau.
- Paratoi adroddiadau a rhoi cyngor proffesiynol i uwch-reolwyr, aelodau etholedig a sefydliadau partner.
- Cynrychioli’r cyngor mewn fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am weithiwr tai proffesiynol brwdfrydig a phrofiadol a all ddangos y canlynol:
Gofynion hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn iechyd yr amgylchedd, tai, technoleg adeiladau, tirfesur, pensaernïaeth neu ddisgyblaeth gysylltiedig, neu brofiad perthnasol cyfatebol.
- Profiad sylweddol o weithredu ar lefel uwch o fewn gwasanaethau tai, gorfodi neu reoleiddio.
- Profiad o gynnal archwiliadau tai a chymhwyso deddfwriaeth tai, gan gynnwys y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
- Profiad blaenorol o reoli ac arwain.
- Gwybodaeth gref am ddeddfwriaeth tai ac iechyd y cyhoedd.
- Sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, trafod ac ysgrifennu adroddiadau.
- Gallu amlwg o reoli nifer o flaenoriaethau, prosiectau a therfynau amser.
- Sgiliau cryf o ran technoleg gwybodaeth, gan gynnwys rhaglenni Microsoft Office.
- Mynediad at gludiant addas er mwyn cyflawni dyletswyddau’r rôl.
Gofynion dymunol
- Profiad o grantiau cyfleusterau i bobl anabl a rhaglenni addasu tai.
- Profiad o raglenni grant tai Llywodraeth Cymru.
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pam ymuno â ni?
Dyma gyfle i ddylanwadu ar safonau tai a chyflenwad tai ledled Sir Benfro wrth arwain tîm medrus iawn sy’n darparu gwasanaethau sy’n gwella iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl.
Rydym yn cynnig y canlynol:
- Rôl arweinyddiaeth barhaol o fewn gwasanaeth uchelgeisiol.
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.
- Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
- Gwyliau blynyddol hael.
- Gyrfa werth chweil sy’n cael effaith gadarnhaol ar draws cymunedau Sir Benfro.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r rôl yn cyfuno gweithio yn y swyddfa, gweithio o bell a gweithio ar y safle, ac mae’n cynnwys archwilio eiddo preswyl, ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid, a mynd i gyfarfodydd ledled y sir.
Os oes gennych chi’r profiad, y sgiliau arwain a’r brwdfrydedd i lunio dyfodol gwasanaethau tai’r sector preifat yn Sir Benfro, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Gwnewch gais heddiw a helpwch ni i greu cartrefi mwy diogel, iachach a mwy cynaliadwy i’n cymunedau.
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a’ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy’n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o’r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a’ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk.
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae’r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy’n bodloni manyleb y person ac sydd wedi’u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.