Lleoliad gwaith: Bae Colwyn
Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n cefnogi ac yn cryfhau cymunedau lleol. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm cyfeillgar a chefnogol o fewn y Tîm Lles Meddyliol, sydd yn rhan o Wasanaethau’r Bobl Ddiamddiffyn, fel Swyddog Asesu ac Adolygu amser llawn.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio o fewn gwasanaeth iechyd meddwl gwaith cymdeithasol, gan gefnogi unigolion sydd â chyflyrau iechyd meddwl difrifol a hirhoedlog sy’n effeithio ar eu gallu i weithredu’n ddyddiol a’u hansawdd bywyd. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio’n agos gydag unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u rhyddhau’n ddiweddar o’r ysbyty yn dilyn cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr iechyd yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, gan ddefnyddio dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda ffocws cryf ar adferiad, galluogi ac ar gynllunio sy’n seiliedig ar ganlyniadau.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cynnal adolygiadau Adran 117 i gyflawni dyletswydd y Cyngor o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, gan sicrhau bod pobl sydd wedi cael eu cadw yn yr ysbyty yn cael y gefnogaeth a’r ôl-ofal cywir pan fyddant yn dychwelyd i’r gymuned.
Bydd cefnogaeth ar gael trwy oruchwyliaeth ffurfiol reolaidd, arweiniad o ddydd i ddydd, a chyfleoedd datblygu parhaus, ynghyd ag ethos tîm cryf sy’n gwerthfawrogi cefnogaeth, dysgu a datblygiad proffesiynol.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu dangos gwybodaeth ac ymarferiad o fewn y sector gofal cymdeithasol ac/neu iechyd, yn ddelfrydol mewn lleoliad iechyd meddwl, ac sydd â chymhwyster perthnasol fel NVQ Lefel 3 mewn Gofal Iechyd a Chymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol. Mae sgiliau cyfathrebu, trefnu a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol, ynghyd â dull tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i chi allu teithio’n rheolaidd ar draws y Sir, gan gynnwys i leoliadau anghysbell, weithiau ar fyr rybudd. Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Conwy.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Claire Davies, Rheolwr Tim, 01492 575667, claire.louise.davies@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.