Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Rydym yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a dymunwn ichi ymuno â’n tîm clos, cyfeillgar i arwain a chanolbwyntio ar y gwaith o ddatblygu mentrau integredig sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau i bobl Conwy a bod o fudd i gymunedau.
Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai o fewn Gwasanaethau Oedolion Conwy yn gofyn am Swyddog Asesu ac Adolygu llawn amser.
Dyma gyfle cyffrous i weithio o fewn Tîm Adnoddau Cymunedol Bae Colwyn sydd yn dîm amlddisgyblaethol wedi’i hen sefydlu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda Phobl Hŷn a’u teuluoedd/gofalwyr a hefyd pobl wedi eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddar. Bydd yr unigolyn yn defnyddio dull cydweithredol sy’n canolbwyntio’n sylweddol ar gynllunio yn seiliedig ar ganlyniadau ac ailalluogi.
Bydd cefnogaeth ar gael drwy oruchwyliaeth reolaidd ffurfiol a goruchwyliaeth anffurfiol o ddydd i ddydd, amrywiaeth o sesiynau grŵp cefnogol a chyfleoedd hyfforddi gwych.
Er mwyn gwneud cais am y swydd hon, dylech allu dangos bod gennych wybodaeth ymarferol dda am y sector gofal cymdeithasol a / neu’r sector gofal iechyd, a dangos hefyd dystiolaeth o astudiaeth berthnasol bellach, e.e. NVQ Lefel 3 neu uwch mewn Gofal Cymdeithasol, BTEC Asesydd Dibynadwy mewn Offer Cymunedol.
Mae’n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu teithio ledled y Sir yn rheolaidd, yn aml i leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sarah Palmer, Rheolwr Tîm (Sarah.palmer@conwy.gov.uk / 01492 577676)
Gofynion y Gymraeg:
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.