Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, mae arnom eisiau i chi ymuno â'n tîm clos, cyfeillgar i ddarparu cymorth gweinyddol i'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Bydd y swydd hon yn gyfle i chi weithio fel aelod allweddol o dîm sefydledig a gwerthfawr sy'n rhan ganolog o wasanaeth cefnogi busnes y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Fe gewch eich mentora a'ch cefnogi'n llwyr gan eich cydweithwyr wrth gyflawni amrywiaeth o dasgau. Elfen allweddol y swydd hon yw bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer derbyn a sgrinio, cydlynu a phrosesu atgyfeiriadau a wneir yn ddyddiol at y Gwasanaethau Plant.
Bydd arnoch chi angen sgiliau trefnu a rheoli amser effeithiol, profiad da o ddefnyddio rhaglenni TG a sgiliau cyfathrebu rhagorol. Bydd gofyn i chi ddarllen a mewnbynnu data ac felly bydd arnoch chi angen gallu rhoi sylw i fanylion a gweithio'n gywir. Byddwch yn delio gyda nifer fawr o wybodaeth sensitif, a fydd hefyd yn gofyn am dipyn o wydnwch.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd a gallwn gynnig amryw drefniadau gweithio'n hyblyg y gallwn eu trafod yn y cyfweliad.
Un o fanteision y swydd hon yw'r dull gweithio hybrid sydd, ar ôl cwblhau hyfforddiant a chyfarfod sefydlu, yn rhoi cydbwysedd rhwng gweithio gartref ac mewn swyddfa newydd sbon ym Mae Colwyn. Byddwn hefyd yn ystyried trefniadau rhannu swydd.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy'n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i'r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Kate Webbern Swyddog Cefnogi Busnes, Tîm Data 01492 574524 Kate.webbern@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i sgwrsio'n gyfforddus â chwsmeriaid yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr