Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, mae arnom eisiau i chi ymuno â'n tîm clos, cyfeillgar i ddarparu cymorth busnes i'r gwasanaethau diogelu plant ac oedolion wrth iddynt ddarparu gwasanaethau i bobl Conwy.
Bydd y swydd hon yn gyfle ichi weithio fel aelod pwysig o dîm sefydlog ac uchel ei barch sy'n rhan ganolog o'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Diogelu Pobl Ddiamddiffyn. Fe gewch eich mentora a'ch cefnogi'n llwyr gan eich cydweithwyr wrth gyflawni amrywiaeth o dasgau. Elfen bwysicaf y swydd yw cymryd cofnodion mewn fforymau statudol a chymhleth (hynny yw, cynadleddau Amddiffyn Plant, Diogelu Oedolion a fforymau eraill); bydd arnoch angen dangos prawf eich bod yn gallu gwrando'n weithredol yn ogystal â meddu ar sgiliau cofnodi a theipio.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd a gallwn gynnig amryw drefniadau gweithio'n hyblyg y gallwn eu trafod yn y cyfweliad.
Un o fanteision y swydd hon yw'r dull gweithio hybrid, sy'n golygu fod cydbwysedd rhwng gweithio gartref ac mewn swyddfa newydd sbon ym Mae Colwyn.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff, yn cynnwys ceir aberthu cyflog, Beicio i'r Gwaith, gostyngiadau a llawer mwy.
Cysylltwch â Jenny i gael sgwrs, ac os yw'r swydd a'r lleoliad at eich dant chi, cliciwch i wneud cais rŵan.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jenny France, Uwch-weinyddydd a Swyddog Cyswllt y Gwasanaeth, (01492) 577403, jenny.france@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr