Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cefnogi busnes a gweinyddiaeth, mae hwn yn gyfle ardderchog i ennill profiad mewn Gwasanaethau Cymorth Gofal Cymdeithasol, gan weithio fel rhan o dîm y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol (MASH).
Mae MASH yn wasanaeth amlasiantaethol prysur sy'n helpu i sicrhau bod gwybodaeth am ddiogelu yn cael ei rhannu'n effeithiol er mwyn cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion. Wrth i'r gwasanaeth barhau i ddatblygu ac ehangu, mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy'n tyfu ac i gyfrannu at ganlyniadau diogelu ar gyfer rhai o aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymuned.
Fel Swyddog Cefnogi Busnes, byddwch yn chwarae rhan bwysig i gefnogi gweithrediad llyfn y tîm o ddydd i ddydd. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, gwasanaethau iechyd, yr heddlu ac asiantaethau partner eraill, byddwch yn cael cipolwg gwerthfawr ar brosesau diogelu amlasiantaeth a'r rôl hanfodol y mae cefnogi busnes effeithiol yn ei chwarae wrth amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.
Bydd eich gwaith yn cynnwys cydlynu cyfarfodydd, paratoi a dosbarthu gwybodaeth, cymryd cofnodion, cynnal systemau cofnodion a data cywir, monitro mewnflychau a rennir, a darparu cymorth gweinyddol i helpu i sicrhau bod prosesau diogelu yn gweithredu'n effeithlon.
Darperir hyfforddiant llawn a chefnogaeth, gan gynnwys meithrin hyder a sgiliau wrth gymryd cofnodion, rheoli gwybodaeth a defnyddio systemau perthnasol. Mae'r rôl yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu sgiliau proffesiynol mewn amgylchedd tîm cefnogol, gan gynnig profiad o ystod eang o swyddogaethau diogelu a gofal cymdeithasol.
Byddai'r rôl hon yn addas i rywun sy'n hynod drefnus, yn hyblyg ac yn gallu rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd. Bydd angen i chi fod â’r gallu i roi sylw rhagorol i fanylion, sgiliau cyfathrebu cryf, lefel uchel o uniondeb, gallu aros yn ddigynnwrf ac yn broffesiynol wrth weithio mewn amgylchedd prysur lle mae cyfrinachedd yn hanfodol.
Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i rywun sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol y tu ôl i'r llenni drwy gefnogi gwasanaethau sy'n helpu i ddiogelu a gwella bywydau plant, pobl ifanc ac oedolion ledled Conwy.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Samantha Shields, Rheolwr Tîm (Samantha.Shields@conwy.gov.uk / 01492576553)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.