Swyddog Cefnogi Busnes
Cyflogwr
Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
-
Ynys Môn
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £26,847 - £28,153 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu gwasanaeth cefnogi busnes sy’n cynnwys gwaith gweinyddol a chymryd cofnodion i bob tîm gofal cymdeithasol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd / Oedolion. Mae’r swyddogaeth cefnogi busnes yn cefnogi meysydd sensitif, cymhleth a gallant achosi gofid ac mae angen lefel uchel o wytnwch emosiynol. Mae’r tîm yn hwyluso/ cydlynu ac yn darparu cefnogaeth strategol lefel uchel i wasanaethau rheng flaen. Bydd deilydd y swydd yn sicrhau fod polisïau a gweithdrefnau’n cael eu dilyn, a chydymffurfiaeth ag amcanion a osodir, er mwyn darparu gwasanaeth o safon uchel, effeithlon ac effeithiol, yn ogystal â sicrhau y cydymffurfir â gwerthoedd craidd y sefydliad a pholisïau ac amcanion adrannol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein