Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, rydym ni’n falch o’n diwylliant cefnogol a chydweithredol ac yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â thîm Cymorth Busnes cyfeillgar ein Gwasanaethau Plant.
Dyma gyfle gwych i gefnogi ein timau gofal plant wrth iddyn nhw ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl ifanc ar hyd a lled Conwy.
Fel aelod allweddol o dîm sefydledig a gwerthfawr iawn, byddwch yn derbyn cefnogaeth lawn ac yn cael eich mentora gan gydweithwyr profiadol i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a magu hyder mewn rôl amrywiol a gwobrwyol.
Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
• Cymryd cofnodion o ansawdd uchel mewn cyfarfodydd cymhleth a statudol, yn cynnwys fforymau Plant sy’n derbyn gofal, Maethu a Mabwysiadu
• Darparu cefnogaeth weinyddol gynhwysfawr i dimau gwaith cymdeithasol
• Rheoli dyddiaduron a chydlynu cyfarfodydd
• Cadw cofnodion cywir ar ein systemau gwybodaeth am gleientiaid
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig dewisiadau gweithio hyblyg a ellir eu trafod yn y cyfweliad.
Mae’r rôl hon yn dilyn model gweithio hybrid, gan roi hyblygrwydd i chi weithio gartref ac yn ein swyddfeydd modern a phwrpasol ym Mae Colwyn.
Yn gyfnewid, fe gewch chi becyn buddion cynhwysfawr sy’n cynnwys:
• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
• Tâl Salwch Galwedigaethol Hael
• Cynlluniau aberthu cyflog (ceir, Beicio i'r Gwaith)
• Arian yn ôl ar ofal iechyd
• Gostyngiadau i staff a mwy
I gael sgwrs am y swydd cysylltwch â:
Lowri Roberts
Uwch Swyddog: Diogelu a Gofal Plant
01492 575233
lowri.roberts@conwy.gov.uk
Os yw hwn yn swnio fel cyfle delfrydol i chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi – gwnewch gais heddiw.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lowri Roberts, Uwch Swyddog: Diogelu a Gofal Plant (lowri.roberts@conwy.gov.uk / 01492 575233)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.