Fe fyddwch hefyd yn darparu Gwasanaeth Brocera effeithiol ac effeithlon a threfnu bod gwasanaethau darparwyr allanol yn cael eu cyflenwi mewn ffordd gost-effeithiol, sy'n cwrdd â'r gofynion penodedig a'r anghenion a aseswyd.
Rydym am recriwtio unigolyn:
- sydd ag ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy drefniadau cytundebol, i sicrhau gwerth gorau
- gyda'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith personol
- gyda'r gallu i ddysgu am feysydd gwybodaeth newydd yn gyflym ac i gynnal systemau cofnodi/adrodd effeithiol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.
Ein cynnig i chiRydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr
yma .
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonCysylltwch â niAm wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon ffoniwch Alun Davies ar 01545 572659 neu e-bostiwch
Alun.Davies@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Cyllid a Chaffael
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu'n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy