Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle ar gael i ymuno â'r Tîm Cwynion, Canmoliaeth ac Ymgysylltu yn y Gwasanaethau Oedolion, ar gyfer cyfnod mamolaeth o 12 mis – ar gael tan fis Gorffennaf 2027. Mae'r Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dinasyddion ledled Caerdydd i fyw'n dda trwy ddarparu mynediad at wasanaethau gofal, cymorth a chyngor, gan weithio’n agos gyda thimau ym mhob rhan o’r Gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau.
Am Y Swydd
Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar gymorth ymgysylltu, adborth a chwynion yn y Gwasanaethau Oedolion. Gan weithio gyda chydweithwyr, rheolwyr a phartneriaid allanol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r gwaith o ymdrin â chwynion yn effeithiol, yn datblygu cyfleoedd am adborth ac yn darparu cymorth gweinyddol a pherfformiad i'r tîm rheoli.
Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gennych wybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac ymdrin â chwynion yng Nghymru, ochr yn ochr â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf. Byddwch yn hyderus yn siarad â phobl ar y ffôn ac wedi cael profiad o ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office, yn enwedig Outlook, Word ac Excel.
Mae profiad o weithio gydag aelodau o'r cyhoedd, oedolion agored i niwed a/neu ymdrin â chwynion yn ddymunol. Byddwch yn gallu rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol, gweithio yn unol â therfynau amser a thalu sylw manwl i fanylion.
Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm profiadol o fewn y Gwasanaethau Oedolion, fydd yn rhoi arweiniad a chefnogaeth drwy gydol y lleoliad.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ac yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Kate deBoeck yn kate.deboeck2@caerdydd.gov.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau