Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Tîm Taliadau Uniongyrchol fel Swyddog Cymorth Ariannol.
Mae’r rôl hon sy’n rhoi llawer o foddhad yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal y gwaith o gyflwyno taliadau uniongyrchol ledled Sir Benfro, drwy sicrhau bod y prosesau gweinyddu ariannol sy’n sail i’r gwasanaeth yn cael eu cyflwyno’n gywir, yn effeithlon ac yn unol â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau perthnasol.
Mae’r rôl yn darparu cymorth ariannol hanfodol i unigolion sy’n cael taliadau uniongyrchol, cynorthwywyr personol, darparwyr a gweithwyr proffesiynol, drwy gynorthwyo’r gwaith o weinyddu taliadau, cofnodion ariannol a gwasanaeth biwro cyflogres taliadau uniongyrchol y cyngor. Byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau y gall unigolion barhau i arfer dewis, annibyniaeth a rheolaeth dros sut y mae eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu.
Wedi’ch lleoli yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, gyda threfniadau gweithio hybrid hyblyg ar gael, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o weithredu’r gwasanaeth taliadau uniongyrchol yn effeithiol bob dydd, ac yn cynorthwyo’r tîm ehangach i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol o ansawdd uchel.
Prif gyfrifoldebau
- Cynorthwyo gwaith gweinyddol gwasanaeth biwro’r gyflogres taliadau uniongyrchol, gan sicrhau bod y gyflogres a phrosesau cysylltiedig yn cael eu cwblhau’n gywir ac o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Prosesu trafodion ariannol taliadau uniongyrchol, gan gynnwys taliadau, anfonebau, ad-daliadau a gweithgareddau gweinyddu ariannol cysylltiedig.
- Cynnal a chadw cofnodion ariannol a chofnodion defnyddwyr gwasanaeth cywir, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei diweddaru a’i rheoli yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt.
- Cynnal prosesau ariannol sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol, gan gynnwys cyfraniadau, gwybodaeth am godi tâl, a dogfennau cysylltiedig.
- Ymateb i ymholiadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth, cynorthwywyr personol, darparwyr, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol mewn modd proffesiynol ac amserol.
- Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws y timau Taliadau Uniongyrchol, Gofal Cymdeithasol, a gwasanaethau ehangach y cyngor i gynnal darpariaeth gwasanaethau effeithiol.
- Cynnal gwiriadau a phrosesau gweinyddol i gynorthwyo gwaith llywodraethu ariannol effeithiol a rheolaeth briodol o arian cyhoeddus.
- Teithio o fewn y sir o bryd i’w gilydd i fynd i gyfarfodydd neu gynorthwyo gofynion darparu gwasanaethau.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol, trefnus, sydd â llygad craff am fanylion, ac â phrofiad o weithio mewn amgylchedd yn ymwneud â chyllid, cyflogres, gweinyddu, neu ganolbwyntio ar gwsmeriaid.
Yn ddelfrydol, bydd gennych y canlynol:
- Profiad o weithio mewn amgylchedd yn ymwneud â chyllid, cyflogres, gweinyddu neu fusnes.
- Profiad o brosesu gwybodaeth ariannol yn gywir a chynnal cofnodion o ansawdd uchel.
- Sgiliau trefnu cryf, a’r gallu i reoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro a bodloni terfynau amser.
- Llygad craff am fanylion a’r gallu i nodi a datrys problemau yn effeithiol.
- Y gallu i gyfathrebu’n glir ac yn broffesiynol ag ystod eang o unigolion, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr, a rhanddeiliaid allanol.
- Y gallu i weithio’n annibynnol tra hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol fel rhan o dîm ehangach.
- Sgiliau da o ran technoleg gwybodaeth, gan gynnwys profiad o ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office a systemau cyfrifiadurol.
Byddai profiad o weithio ym maes cyflogres, gan gynnwys prosesu’r gyflogres, taliadau statudol, a gofynion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn ddymunol.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar
- Trefniadau gweithio hybrid, hyblyg
- Pecyn gwyliau blynyddol hael o 26 diwrnod gwaith y flwyddyn, yn codi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus (pro rata)
- Wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus ychwanegol (pro rata)
- Cynllun prynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Cynllun Gwirfoddoli Gweithwyr gyda hyd at dri diwrnod y flwyddyn o amser gwirfoddoli â thâl
- Aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cynllun pensiwn â buddion wedi eu diffinio ar sail cyfartaledd cyflog gyrfa)
Gwnewch gais nawr i ymuno â thîm cefnogol, a chwarae rhan allweddol wrth helpu pobl ledled Sir Benfro i gael mynediad at gymorth taliadau uniongyrchol diogel ac effeithiol sy’n cael ei reoli’n dda.
Noder y bydd y broses gyf-weld ar gyfer y rôl hon yn cynnwys rhoi cyflwyniad byr ar daliadau uniongyrchol. Darperir manylion pellach i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer.
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a’ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy’n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o’r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a’ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk.
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae’r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy’n bodloni manyleb y person ac sydd wedi’u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.