SWYDDOG CYMORTH CONTRACTAU
Cyflogwr
Cardiff Council/Cyngor Caerdydd
Lleoliad
-
Caerdydd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £Gradd 5 - £29,071 - £33,119 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Am Y Gwasanaeth
Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws holl swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o wasanaethau allanol i ddinasyddion Caerdydd.
Prif flaenoriaethau'r Gwasanaeth yw:
- Darparu gwasanaethau cymdeithasol o’r ansawdd uchaf posibl
- Integreiddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn ôl yr angen
- Goresgyn y rhwystrau a chydlynu gwasanaethau yn y Gymuned ac ar draws y Cyngor
- Sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a thrigolion Caerdydd cymaint â phosibl
Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddatblygu, gweithredu a chynnal y gwasanaethau, y prosesau monitro a'r systemau ansawdd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn effeithiol ac yn effeithlon o ran diwallu anghenion unigol a strategol.
Am Y Swydd
Bydd y Swyddog Cymorth Contractau yn gweithio o fewn y Tîm Datblygu Gwasanaeth a Chontractau Gwasanaethau Oedolion.
Bydd y rôl yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynnal gwaith monitro ac adolygu contractau a gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a Gwasanaethau Allanol yn rheolaidd er mwyn gwella canlyniadau i bobl leol, eu teuluoedd a'u gofalwyr a chymryd rhan yn y gwaith parhaus o fonitro ac adolygu perfformiad gwasanaethau
- Helpu i gynllunio, creu a gweithredu dulliau monitro a sicrhau ansawdd
- Bod yn gyswllt allweddol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol (e.e. Darparwyr, Defnyddwyr Gwasanaethau, Gweithwyr Cymdeithasol, Arolygiaeth Gofal Cymru, yr Heddlu, Iechyd) i sicrhau bod cydymffurfiaeth gytundebol a'r canlyniadau gorau yn cael eu sicrhau i drigolion Caerdydd a'r Awdurdod Lleol.
- Cyfrannu at gyflawni amcanion strategol a gweithredol blaenoriaethau'r Cyngor a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae pobl leol (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed) yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein