37 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at un flwyddyn (Cyfnod Mamolaeth)
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu Gofal Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag dros gyfnod mamolaeth ar gyfer Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol, yn gweithio yng ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn ein MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth). Ein MASH yw'r un pwynt cyswllt i'r holl weithwyr proffesiynol a dinasyddion godi pryderon ynghylch diogelu. Byddech yn darparu amrywiaeth o swyddogaethau cymorth gweinyddol gan weithio'n agos gyda gweithwyr cymdeithasol ym maes Gwasanaethau Plant.
A chithau'n Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol, byddwch yn cynorthwyo tîm bach o weithwyr cymdeithasol yn ddyddiol. Eich rôl fydd mynd ati'n rhagweithiol i gynorthwyo'r gweithwyr cymdeithasol i reoli eu llwyth achosion, wrth i'r gweithwyr cymdeithasol gadw'r cyfrifoldeb cyffredinol. Byddwch yn gweithio gyda’r Gweithiwr Cymdeithasol ac yn unol â safonau a gweithdrefnau adrannol y cytunwyd arnynt, gyda'r nod o ryddhau'r Gweithiwr Cymdeithasol o rai tasgau gweinyddol sylfaenol.
Byddwch yn hyderus ac yn rhagweithiol, heb ofni defnyddio'ch menter eich hun, gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol. Yn ogystal, mae'r rôl yn gofyn am sgiliau dadansoddol da, hunangymhelliant a sgiliau amldasgio da.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys trefnu a chydlynu dyddiaduron, cyfathrebu â chleientiaid a gweithwyr proffesiynol (ar lafar ac yn ysgrifenedig), mynd ati'n rhagweithiol i drefnu a chefnogi cyfarfodydd sensitif, cofnodi gwybodaeth ar gofnodion cleientiaid, diweddaru cronolegau, olrhain a monitro gwybodaeth am lwyth achosion a dethol gwybodaeth o ffynonellau amrywiol.
Mae angen profiad o gymryd cofnodion, neu barodrwydd i ddysgu'r sgìl hwn
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf.
Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 13 Awst 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person