Rydym yn profi rhai materion technegol a allai eich atal rhag mewngofnodi neu ddefnyddio rhannau o'r wefan. Rydym wrthi'n gweithio ar ddatrys y materion hyn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi.
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION
SWYDDOG CYNLLUNIO A CHOMISIYNU (Cydlyniant a Datblygiad Cyfalaf)
G09 £35,745 - £38,223 y flwyddyn
Parhaol - 37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn medrus a brwdfrydig ymuno â'r Tîm Cynllunio a Chomisiynu (Gofal Cymdeithasol i Oedolion).
Mae'r Tîm yn arwain gweithgarwch comisiynu strategol o fewn yr Adran Gofal Cymdeithasol ac yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau newid mawr.
Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o reoli prosiectau a bydd yn gallu dangos dealltwriaeth o egwyddorion rheoli newid. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd sy'n helpu darparu rhaglen gomisiynu gyd-gynhyrchiol, a bydd ganddo/ganddi brofiad o ymgysylltu a gweithio gydag ac ar ran defnyddwyr gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn gallu dadansoddi amrediad o ddeunyddiau ymchwil a rhoi'r canfyddiadau ar waith er mwyn helpu dinasyddion Wrecsam i gael canlyniadau cadarnhaol.
Gobeithiwn i'r rôl hon ganolbwyntio ar gydlyniant a datblygiad Cyfalaf ar gyfer yr adran. Byddai profiad o weithio ar brosiectau cyfalaf, ysgrifennu/datblygu strategaethau a dealltwriaeth o brosesau Achosion Busnes Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn fuddiol, fodd bynnag, bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio'n agos â phartneriaid iechyd, sefydliadau cymunedol, trydydd sector ac annibynnol er mwyn cefnogi gweithrediad Strategaethau Comisiynu'r Adran a blaenoriaethau'r Cyngor.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Steve Latham-White, yr Arweinydd Comisiynu Dros Dro. Rhif ffôn: 01978 298612, neu e-bost: steve.latham-white@wrexham.gov.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.