Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Nia Davies ar 01286 685631 neu drwy e-bost NiaDavies@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 13/11/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Person gweithgar a threfnus.
Gonestrwydd, hunan hyder a hyblyg
Gallu i dderbyn cyfrifoldeb a chyfathrebu’n effeithiol.
Gallu i ymdrin â phobl o bob oed a chefndir yn gwrtais ac effeithiol.
Gallu i weithio heb arolygaeth a blaenoriaethu gwaith
Meddu ar sgiliau cyfathrebu da yn ogystal â’r gallu i ymwneud â phobl yn gwrtais.
Bod yn hyblyg gyda’r gallu i gydweithio fel aelod o dîm.
Meddu ar hunan-gymhelliant gyda’r gallu i flaenoriaethu a chwblhau tasgau i gwrdd â therfynau amser penodol.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Safon addysg dda hyd at lefel T.G.A.U. neu uwch i gynnwys cymwysterau mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg.
Dymunol
Cymhwyster NVQ 3 mewn gweinyddiaeth neu Fusnes a Chyllid
EDCL
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o ymdrin a phobl.
Profiad o weithio yn y maes ariannol neu weinyddol.
Dymunol
Profiad o ddefnyddio sustemau ariannol y Gwsanaeth a’r Cyngor- RAISE a CEDAR a.y.b.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da yn llafar ac yn ysgrifenedig.
Profiad o lunio llythyrau yn ddwyieithog.
Profiad o ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth e.e. Ebost,Excel, Word
Meddu ar y sgil o weithio’n ofalus a chywir heb oruchwyliaeth
Dymunol
Gwybodaeth a delltwriaeth o fudd-daliadau yn gyffredinol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o Bolisiau Codi Tal preswyl a dibreswyl y Cyngor.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Pwrpas y swydd
•Darparu cefnogaeth i’r Swyddogion Incwm a Lles ym mhob agwedd o waith yr Uned Incwm a Lles. Cymryd perchnogaeth dros achosion gan gwblhau asesiadau ariannol, codi anfonebau a monitro achosion
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cymryd cyfrifoldeb personol dros hunanddatblygiad a deallusrwydd o’r deddfau a pholisïau codi tâl am wasanaethau, a budd-daliadau.
•Derbyn ffurflenni ceisiadau am asesiadau ariannol Preswyl a Dibreswyl. Gwirio a chasglu gwybodaeth am incwm a chyfalaf drwy gysylltu â’r Defnyddwyr Gwasanaeth, DWP, Banciau, Cronfeydd Pensiynau a.y.b.
•Cwblhau asesiadau ariannol Preswyl a Dibreswyl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Pholisïau’r Cyngor.
•Mewnbynnu gwybodaeth i sustemau ariannol a sustemau cyfrifiadurol y gwasanaeth. Cadw taenlenni a chofnodion ariannol eraill o asesiadau a thaliadau yn unol â gofynion yr Adran a Rheolau Ariannol y Cyngor.
•Sicrhau bod anfonebau cywir yn cael eu hanfon allan yn brydlon ar gyfer pob gwasanaeth preswyl, dibreswyl, neu eraill pan fo angen.
•Trefnu taliadau trwy orchymyn banc neu godi anfonebau.
•Ail gynnal asesiadau ariannol ar bob defnyddiwr gwasanaeth yn flynyddol. (Neu yn amlach os oes angen).
•Monitro a newid asesiadau ariannol ac anfonebau yn unol ar angen. E.e. I gynnwys eiddo ar ôl 12 wythnos neu i gynnwys budd-dal ychwanegol yn yr asesiad yn dilyn cais am fudd-dal llwyddiannus.
•Trefnu i werthuso eiddo a chofrestru dyled yn erbyn eiddo mewn achosion taliadau gohiriedig.
•Monitro taliadau yn rheolaidd, adnabod dyledion ac erlid taliad.
•Mynychu cyfarfodydd gweithredu fel bod angen.
•Delio gydag ymholiadau gan y cyhoedd/ defnyddwyr gwasanaeth/ Gweithwyr Cymdeithasol dros y ffon ac wyneb yn wyneb.
•Ymateb i ymholiadau/ gohebiaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig.
•Ateb galwadau ffôn yr Uned Incwm a Lles, delio gydag ymholiadau a chymryd negeseuon ar ran eraill.
•Darparu cefnogaeth weinyddol yn y swyddfa i’r Swyddogion Incwm a Lles.
•Bod yn hyddysg a defnyddio system godi anfonebau CEDAR.
•Bod yn hyddysg gyda defnyddio system WCCIS.
Cyfrifoldebau eraill :
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-