Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Aelod o Dîm Systemau a Pherfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb gweithredol am weinyddu, cyflunio, cynnal a datblygiad parhaus systemau gwybodaeth busnes yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Bydd deiliaid y swydd yn defnyddio crebwyll annibynnol i adnabod a datrys problemau cymhleth yn gysylltiedig â systemau, mynediad ac ansawdd data; darparu cyngor technegol a gweithredol arbenigol i reolwyr, ymarferwyr a phartneriaid; ac arwain gwelliannau mewn systemau diffiniedig, uwchraddiadau, profion, adroddiadau a gweithgareddau ymgysylltu â defnyddwyr.
Bydd y swydd yn trosi gofynion gwasanaeth yn ddatrysiadau system effeithiol ac yn hyrwyddo defnydd cyson ac effeithiol o’r System Reoli Gofal Cymdeithasol, gan gydymffurfio ag unrhyw ofynion.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Emma Edwards
Rhif ffôn: 01248 751887
Cyfeiriad e-bost: emmaedwards@ynysmon.cymru.llyw