Swyddog Dilyniant
Lleoliad
-
Wrecsam
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £31,537 - £ 33,143 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl
Swyddog Dilyniant
Tîm Rheoli Prosiectau – Gofal Cymdeithasol
Cyfle Secondiad tan 31 o Mawrth 2027
Graddfa Gyflog G07 (SCP 18-21) | 37 awr yr wythos
Ydych chi’n angerddol am helpu pobl cyflawni mwy o annibyniaeth a gwella eu lles? Ydych chi’n mwynhau gweithio yn greadigol efo unigolion? Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymhellol i ymuno â'r Tîm Rheoli Prosiectau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio efo pobl ifanc a oedolion 16+ pwy syn angen cymorth i ddatblygu sgiliau, hyder a cyfleoedd sydd eu hangen i fyw bywydau mwy annibynnol.
Fel swyddog dilyniant, byddwn yn asesu anghenion uniogolyn, datblygu cynlluniau cynnydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn darparu cefnogaeth ymarferol, canllawiau a mentora i helpu pobl i gyflawni'r canlyniadau y maent yn eu dymuno. Byddwch yn gweithio’n agos efo gweithwyr proffesiynol, gwasanaethau a sefydliadau cymunedol i hyrwyddo annibyniaeth a lleihau’r ddibyniaeth ar gymorth â thâl.
Rydym yn chwilio am rywun pwy sydd â:
Profiad gweithio efo pobl ifanc a/neu oedolion gydag anableddau, anghenion cymhleth neu wendidau eraill.
Nghariad at rymuso pobl i gyflawni eu nodau a gwneud y mwyaf o'u hannibyniaeth.
Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a chadw cofnodion rhagoro.
Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm cefnogol.
Cael sgiliau trefniadaethol dda ac y gallu rheoli baich achosion amrywiol.
Mae hyn yn cyfle gwobrwyol er mwyn gwneud gwahaniaeth i y fywydau o pobl ifanc ac oedolion ar draws y bwrdeistref sirol, helpu nhw i magu hyder, datblygu sgiliau bywyd a chyflawni mwy o annibyniaeth.
Mae’r swydd hon yn gofyn am wiriad DBS manylach.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais ar sail secondiad gael cymeradwyo eu rheolwr llinell cyn gwneud cais.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:
Sue Evans, Rheolwr Tim Dros Dro
📞 07500 058204
Amdanom Ni
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein