Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol
Lleoliad
-
Ynys Môn
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £47,181 - £50,269 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cadeirio Adolygiadau Statudol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal a Chynadleddau Diogelu Plant, craffu trefniadau gofal a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc, a’r rheiny sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, yn annibynnol.
Cyfrannu at systemau ar gyfer monitro effeithiolrwydd ac ansawdd proses y gynhadledd achosion diogelu plant, gan sicrhau bod gofynion Rhan 6 a 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] a Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cael eu bodloni.
Sefydlu, monitro ac adolygu cynlluniau gofal a chefnogi’n effeithiol, fel bo plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hamddifadu neu ei niweidio wedi’u diogelu.
Cyfrannu at systemau sicrhau ansawdd ar gyfer monitro effeithiolrwydd ac ansawdd adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC) a’r broses diogelu plant, gan sicrhau bod yr holl ofynion statudol yn cael eu cyflawni, a bod y broses adolygu LAC yn cael ei defnyddio i sicrhau bod cynlluniau gofalu a chefnogi effeithiol yn cael eu darparu er mwyn cynnig lleoliadau sefydlog i blant sy’n derbyn gofal.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein