Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae'r hysbyseb yn dynodi bod angen cymhwyster Gwaith Cymdeithasol ond rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan Nyrsus cofrestedig a Therapyddion Galwadigaethol.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ( Pecyn Gwybodaeth )
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Mannon Trappe ar 01286 679723
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD CAU: 19/11/2024 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Gwsanaethau Oedolion.pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Dangos ymroddiad i sicrhau fod y dinesydd yn ganolog i holl ddarpariaeth gofal.
Dangos ymrwymiad i egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ac egwyddorion Ffordd Gwynedd.
Bod yn agored i ystyried syniadau a ffyrdd newydd o weithio.
Yn meddu ar sgiliau negodi cryf.
Yn berson brwdfrydig, ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon/ansawdd uchel.
Meddyliwr creadigol a chyfathrebwr effeithiol gyda'r gallu i ysbrydoli'r gweithlu
Y gallu i weithio ar ben eich hun ac fel rhan o dîm.
Y gallu i weithio yn effeithiol o dan bwysau.
Personoliaeth groesawus.
Gonestrwydd, pendantrwydd a hyblygrwydd.
Gallu i dderbyn cyfrifoldeb a chyfathrebu yn effeithiol.
Dymunol Gallu i ysbrydoli a grymuso staff yn effeithiol.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Cymhwyster proffesiynol yn y maes gofalu (Gwaith Cymdeithasol)
3 mlynedd o brofiad ôl gymhwyso.
Tystiolaeth eich bod wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol perthnasol
Yn berchen ar drwydded yrru a defnydd o gar.
Dymunol Cymwysterau datblygiadol o fewn y proffesiwn (CPEL).
Cymhwyster Ymarfer Dysgu.
Profiad perthnasol Hanfodol Tystiolaeth o brofiad eang yn gweithio mewn gwaith yn y gymuned.
Profiad o weithio hefo achosion diogelu.
Profiad o weithio yng ngwasanaethau oedolion.
Profiad o gefnogi cydweithwyr neu fyfyrwyr yn y gweithle.
Profiad o weithio ar achosion cymhleth.
Profiad o weithio yn effeithiol gyda partneriaid.
Profiad o reoli risgiau ac arddangos barn broffesiynol ardderchog
Dymunol Profiad o gyfrannu i gynlluniau/prosiectau.
Profiad o waith ymgynghori, cyflwyniadau a chwblhau adroddiadau
Profiad o gyflawni targedau o fewn terfynau amser penodol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o ddeddfwriaeth berthnasol i faes gofal ac iechyd oedolion.
Gwybodaeth a phrofiad o ddiogelu oedolion.
Dealltwriaeth o ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Deall amcanion a blaenoriaethau'r Cyngor.
Deall cysyniad ac egwyddorion Ffordd Gwynedd.
Gallu i gyfathrebu a rhwydweithio yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Sgiliau Technoleg Gwybodaeth ddigonol i wneud defnydd effeithiol o becynnau meddalwedd perthnasol i'r swydd.
Sgiliau negodi da.
Dymunol Y sgil i ddadansoddi data er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth a sicrhau ansawdd
Sgiliau cymhelliant
Sgiliau cyflwyno a chadeirio.
Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli newid.
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Bwriad y Gwasanaethau Integredig Oedolion yw:-
"fy ngalluogi i fyw fy mywyd fel rwyf yn ei ddymuno"
• I roi arweiniad gweithredol o ran diogelu oedolion ar draws grŵp gweithlu sy'n gyflogedig gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i sicrhau fod pobl yr ardal yn cael mynediad i'r person cywir ar yr amser cywir a derbyn y gefnogaeth gywir i'w galluogi i barhau i fyw eu bywydau eu hunain.
• Cefnogi'r Arweinydd Ardal I reoli'r drefn diogelu.
• Darparu arbenigedd yn y maes diogelu oedolion a gweithredu mewn rol ymgynghorol ar gyfer y gwasanaeth yn Sirol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • STAFF - cyfrifoldeb goruchwylio a chefnogaeth dydd i ddydd ar achosion Diogelu sy'n cael eu cyfeirio I'r Gwasanaeth Oedolion.
Prif ddyletswyddau CYFRIFOLDEBAU RHEOLI
• Cyfrifoldeb am ddatblygu'r 'hwb' Diogelu I dderbyn pob ymholiad diogelu'r Adran Oedolion. Penderfynu a chytuno ar sut I reoli'r ymholiadau/ cyfeiriadau er mwyn sicrhau bod trigolion yn ddiogel.
• Perfformiad a Datblygiad - Canolbwyntio ar wella perfformiad trwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad.
• Datrys problemau - Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.
• Cyfathrebu - Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy'n cydnabod teimladau eraill.
• Ymwybyddiaeth o'r cyd-destun - Deall a gweithio'n effeithiol o fewn fframwaith politicaidd y Cyngor a bod yn ymwybodol o'r materion sy'n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o ymarfer gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.
• Hunanreoli - Dangos esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, gonest a sefydlog a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
CYFRIFOLDEBAU PENODOL
• Derbyn a delio â ymholiadau/ cyfeiriadau Diogelu o fewn yr Adran Oedolion.
• Gweithio gyda dinasyddion sydd angen cefnogaeth i'w galluogi i gwrdd ag amcanion sydd yn bwysig iddynt.
• Gweithredu yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
• Annog gweithredu modelau ataliol er mwyn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau.
• Adrodd ar rwystrau nad ydyw'r tîm yn gallu eu goresgyn i'r Uwch Reolwr.
• Cymeryd rôl arweiniol ar gyfer ymholiadau/ cyfeiriadau Diogelu'r Adran.
• I fod yn berson proffesiynol allweddol ar gyfer yr Uned Diogelu, gan roi cefnogaeth ac arweiniad broffesiynol yn ol yr angen.
• Darparu cefnogaeth a chyngor a fydd yn hysbysu ymarfer da a galluogi perthynas waith effeithiol.
• Annog datblygiad gweithlu ac annog cefnogi myfyrwyr ar leoliad.
• Yn hyderus i wneud penderfyniadau a chefnogi staff I wneud penderfyniadau am sut I reoli ymholiadau/ cyfeiriadau.
•r Cyd-lynydd Diogelu a'r Uwch Reolwr i ddelio ac ymholiadau ac ymchwilio a chwblhau adroddiadau i ymateb i gwynion.
• Sicrhau fod cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisïau adrannol yn cael eu cwrdd mewn perthynas â gwaith Diogelu.
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau Diogelu y Cyngor a chyfrifoldebau statudol.
• Gweithredu fel arweinydd dynodedig ar rhai achosion diogelu. Cwblhau ymchwiliadau i honiadau o gamdriniaeth.
• Annog a hwyluso trafodaethau aml ddisgyblaethol rheolaidd i ddod o hyd i ffyrdd creadigol i gyflawni amcanion a diogelu'r dinesydd heb gyfyngu yr ymyrraeth i baru pobl a gwasanaethau traddodiadol a chreu dibyniaeth ar wasanaethau.
• Dosbarthu gwaith I'r ardaloedd/ gwasanaethau addas.
• Ymateb I ymholiadau yn amserol.
• Cydweithio hefo partneriaid er mwyn gwneud ymholiadau a Diogelu dinasyddion.
• Cydweithio a chreu cysylltiadau cryf ag adrannau eraill o'r Cyngor a phartneriaid eraill sydd â chyfraniad i'w wneud i sicrhau fod dinasyddion yn cyrraedd amcanion llesiant.
• Cyfrannu i gyflawni amcanion llesiant y Cyngor gan ddarparu gwybodaeth a mapio darpariaeth sy'n cyfrannu at gyflawni anghenion gofal y dinesydd.
• Cyfrannu at ac arwain ar dimau prosiect yn lleol a sirol
• Cyfrannu i ddatblygu a chefnogi cynllun gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy ar gyfer yr ardal ac yn sirol.
• Cynrychioli'r adran mewn cyfarfodydd lleol, sirol a rhanbarthol.
• Cyfrannu i'r asesiad anghenion poblogaeth.
• 31. Datblygu arbenigedd mewn Diogelu Oedolion a gweithredu fel arbenigwr i roi cyngor ac arweiniad penodol i'r gwasanaeth.
• Dirprwyo ar ran yr Uwch Reolwr.
CYFRIFOLDEBAU ERAILL
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Gweithio oriau anghymdeithasol yn ôl yr angen.
• Mae ystyriaeth yn cael ei roi i ymestyn oriau agor y gwasanaeth yn ystod yr wythnos ynghyd â gweithio penwythnosau.
• Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau a gaiff ei sefydlu ar sail rota.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr