Oes gennych agwedd dawel a gofalgar ynghyd â sgiliau arwain cryf?Rydym yn chwilio am Swyddog Dyletswydd Nos ar sail dros dro tan 31 Mawrth 2027 i ymuno â’n tîm ymroddedig mewn lleoliad gofal preswyl. Mae hon yn rôl werth chweil ac ystyrlon i rywun sy’n frwdfrydig, yn dosturiol ac wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth o safon uchel yn ystod y nos.
Beth fyddwch yn ei wneud:
Fel aelod allweddol o’n tîm nos sefydledig, byddwch yn chwarae rhan arweiniol wrth sicrhau diogelwch, cysur a lles ein preswylwyr. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- Hyrwyddo gofal sy’n seiliedig ar werthoedd sy’n cefnogi annibyniaeth ac yn gwella ansawdd bywyd.
- Goruchwylio a chefnogi staff nos i gynnal safonau gofal uchel.
- Monitro ac arwain staff mewn trin a chodi pobl yn ddiogel ac mewn arferion gwaith diogel eraill.
- Cynorthwyo gyda rhoi meddyginiaethau a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau gofal.
- Arwain ar ddogfennaeth gofal, gan sicrhau bod cofnodion yn gyfredol ac yn adlewyrchu arfer gorau.
- Gweithio ar y cyd â’r rheolwr i ddatblygu partneriaethau cryf gyda theuluoedd, gweithwyr proffesiynol a’r gymuned ehangach.
- Sicrhau bod safonau Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser.
- Cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu, goruchwyliaeth a datblygiad proffesiynol eich hun.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Agwedd gadarnhaol a rhagweithiol, ac angerdd gwirioneddol dros ofal.
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal, yn ddelfrydol mewn rôl oruchwylio.
- Dealltwriaeth gadarn o safonau gofal a deddfwriaeth berthnasol.
- Y gallu i arwain gyda phroffesiynoldeb, empathi a hyder.
- Agwedd hyblyg a dibynadwy tuag at waith nos.
Pam ymuno â ni?
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol.
- Hyfforddiant, datblygiad a chyfleoedd dilyniant gyrfa parhaus.
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol bob nos.
- A manteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cymwysterau Hanfodol
- NVQ Lefel 3 mewn Gofal (neu wedi cofrestru ac yn gweithio tuag ato).
- Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) QCF.
- Y gallu i ddangos datblygiad proffesiynol parhaus.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Joanna Szubka ar 01554 771 835.