Rydym yn profi rhai materion technegol a allai eich atal rhag mewngofnodi neu ddefnyddio rhannau o'r wefan. Rydym wrthi'n gweithio ar ddatrys y materion hyn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi.
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau cymunedol / dydd i blant a theuluoedd
Rôl
Swyddog Gwasanaeth Dydd i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
SWYDDOG GOFAL PLANT
37 awr
Graddfa 07 £29,269 - £30,825 Contract neu secondiad dros dro / cyfnod penodol yw hwn. Dyddiad gorffen - 31/03/2025 Ydych chi â diddordeb mewn ymuno â'n tîm?
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Swyddog Gofal Plant.
Gellir cyflawni'r rôl hon drwy drefniadau gweithio hybrid yn ein swyddfa fodern yn Adeiladau'r Goron, yn ogystal â chyfle i weithio gartref. Gallwn eich cefnogi chi gyda'ch cydbwysedd bywyd a gwaith a chynnig patrymau gweithio ac oriau hyblyg sy'n diwallu eich anghenion.
Gallwn gynnig llawer o gyfleoedd i wneud cynnydd yn eich gyrfa gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, hyfforddiant a chysgodi gweithwyr eraill, yn ogystal â gweithio'n integredig â thimau eraill.
Fel rhan o'n tîm, bydd cyfle i chi ymuno â ni ar gyfer Te Dydd Iau, lle rydym yn cyfarfod i fwynhau te, coffi a sgwrs. Byddwn hefyd yn cynnal ein diwrnod meithrin tîm blynyddol yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol eraill a gaiff eu trefnu gennym drwy gydol y flwyddyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddarparwyr gofal plant ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn chwilio am unigolyn positif, brwdfrydig a hyblyg ar gyfer y swydd hon. Bydd pob un o'r ymgeiswyr yn gorfod dangos eu bod yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.
Dylai ymgeiswyr sydd yn awyddus i gael secondiad gael caniatâd eu rheolwr llinell cyfredol cyn gwneud cais.
Am fwy o wybodaeth ac i gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â neu Lisa Atherton drwy fonio 01978 292659
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran