Lleoliad gwaith: Bae Colwyn / Llanfairfechan
Mae Gwasanaeth Teleofal Conwy yn cefnogi amrywiaeth o unigolion i aros yn ddiogel ac yn annibynnol drwy ddarparu a gosod technoleg bwrpasol yn eu cartrefi, megis systemau larwm personol neu synwyryddion. Wedi’ch lleoli o fewn yr Adain Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer tîm sy’n rheoli llif gwaith cyflym drwy
• Ateb galwadau gan gwsmeriaid, atgyfeiriwyr a sefydliadau trydydd parti.
• Prosesu atgyfeiriadau
• Codi a chanslo anfonebau
• Cyfeirio at y ffynonellau gwybodaeth, gwasanaethau a sefydliadau priodol.
Gellir dysgu am ofal cymdeithasol wrth wneud y gwaith os nad oes gennych brofiad blaenorol.
Amdanoch chi:
Gyda’ch gallu profedig i ddilyn prosesau, rydych yn weinyddwr hyderus sy’n ymdrechu bob amser i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
• Rydych yn weinyddwr medrus.
• Rydych yn wych am gyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd ac yn gwybod pryd a sut i ofyn am gymorth neu uwchgyfeirio materion
• Rydych yn mwynhau’r her o ddarparu’r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid, gan sicrhau gwelliant parhaus
• Rydych yn gwerthfawrogi prosesau a dulliau gweithio sy’n sicrhau bod y systemau cywir yn cael eu gosod i gynorthwyo pobl, gan ddeall yr angen i’w hadolygu.
• Bydd eich dull trefnus o wneud y gwaith yn cefnogi cydweithwyr yn y tîm gosod i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol
Buddion:
• Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol.
• Byddwch yn cael goruchwyliaeth reolaidd gan eich Rheolwr Tîm
• Mynediad at hyfforddiant drwy raglenni hyfforddi Gofal Cymdeithasol a rhaglenni hyfforddi corfforaethol, yn ychwanegol at hyfforddiant allanol lle bo hynny’n briodol a byddwch yn cael eich cefnogi a’ch annog i ddysgu gyda ni.
• Bod yn rhan o sefydliad sy’n sicrhau arferion gweithio diogel a llawn cefnogaeth, drwy bolisïau gweithwyr cadarn.
• Mynediad at nifer o fuddion gweithwyr, gan gynnwys Buddion Conwy, a Ffit Conwy.
• Gweithio mewn gofod swyddfa pwrpasol, sy’n agos at nifer o siopau, lleoedd bwyd o safon a choffi da!
Siaradwch â ni:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Lindsay Duncalf, Rheolwr Tîm am sgwrs fer neu ewch ati rŵan i lenwi’r ffurflen gais.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lindsay Duncalf, Rheolwr Tîm (Lindsay.duncalf@conwy.gov.uk / 01492 577813)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.