Lleoliad gwaith: Canolfan Deulu Abergele
Ydych chi eisiau gyrfa werth chweil a gwneud gwahaniaeth i Deuluoedd yng Nghonwy?
Rydym yn dîm cyfeillgar sy'n gweithio yn Nwyrain Conwy gan helpu teuluoedd i wneud y gorau o fywyd teuluol. Gallwn gynnig mwy na swydd mewn gofal cymdeithasol yn unig i chi.
Swyddogion Gwybodaeth a Chymorth Busnes yw ein pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar gyfer y tîm. Maent yn cael effaith aruthrol ar fywydau’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Gallwch chi ein helpu ni i wneud gwahaniaeth yn y fan a'r lle. Os ydych yn berson pobl a bod gennych rywfaint o sgiliau gweinyddol a TG mae'r rôl hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich profiad yn y maes hwn.
Rydyn ni i gyd yn gwybod nad yw magu teulu yn hawdd ac rydyn ni i gyd angen cyngor a chefnogaeth weithiau.
Rydym yn cefnogi teuluoedd gyda’u bywydau bob dydd, yn gwrando arnynt, ac yn darparu cyngor a chymorth ymarferol. Mae’r rôl hon yn darparu wyneb croesawgar a chyfeillgar pan fydd rhywun yn cysylltu â’r Ganolfan Deulu am y tro cyntaf, yn ogystal â darparu rhywfaint o gymorth ymarferol i’r tîm, gan gynnwys tasgau cyllid.
Os ydych chi'n rhannu'r gwerthoedd hyn rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
• Helpu pobl i fyw'r bywyd y maent am ei fyw.
• Meithrin perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, a gwir ddiddordeb mewn pobl eraill.
• Helpu eraill i deimlo'n dda.
• Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau
• Rydych chi'n dda am gymell eraill
• Rydych yn barchus tuag at eraill
• Mae gennych synnwyr digrifwch gwych
• Dydych chi ddim yn mynd i banig ac rydych chi'n peidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd anodd
I gael gwybod mwy am ein timau, edrychwch ar ein tudalennau gwe – www.conwy.gov.uk/bywydteulu
Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd hon, ffoniwch:
Joanne Price 01492 575212
Kelly Jones 01492 574742
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.