Swyddog Gwybodaeth Estyn Allan
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
-
Wrecsam
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £31,537 - £33,143 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl
- 37 awr yr wythnosDros dro tan 31/03/2027
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn chwilio am unigolyn cadarnhaol, brwdfrydig, trefnus, hyblyg ac sydd ag empathi ar gyfer y swydd hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm Estyn Allan sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd drwy ddarparu gwasanaeth estyn allan yn y gymuned a gweithio gyda theuluoedd ar sail unigol. Fe all hyn gynnwys teuluoedd gyda phlant sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol, teuluoedd sy’n geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid, rhieni sy’n disgwyl plentyn yn ogystal â rhieni plant hŷn. Byddai’r swydd yn cynnwys cefnogi’r teuluoedd hynny i gyrraedd gwasanaethau.
Mae angen gwybodaeth ragorol am y gwasanaethau sydd ar gael ar hyd a lled Wrecsam a’r materion sy’n wynebu teuluoedd ar gyfer y swydd hon. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus gael y sgiliau i gynnal trafodaeth “Beth sy’n bwysig” gyda theuluoedd a nodi’r materion allweddol ar gyfer y teulu hwnnw a’r gwasanaethau sy’n gallu helpu.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein