SWYDDOG HYFFORDDI GWASANAETHAU OEDOLION
Cyflogwr
Cardiff Council/Cyngor Caerdydd
Lleoliad
-
Caerdydd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £Gradd 8 - £42,123 - £46,579 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol y Gwasanaethau Oedolion yng Nghyngor Caerdydd.
Mae ein tîm ymroddedig o Swyddogion Hyfforddi a staff Cymorth Busnes wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad parhaus y gweithlu Gofal Cymdeithasol Oedolion ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio ar y cyd â rheolwyr, ymarferwyr a sefydliadau partner i sicrhau bod staff yn cael mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd uchel sy'n cefnogi canlyniadau rhagorol i ddinasyddion.
Am Y Swydd
Fel Swyddog Hyfforddi, byddwch yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi dysgu, datblygu a chynllunio'r gweithlu ar draws Gwasanaethau Oedolion. Byddwch yn gweithio'n agos gyda rheolwyr a thimau i nodi anghenion hyfforddi, datblygu atebion dysgu a gwerthuso effaith hyfforddiant ar ymarfer a darparu gwasanaethau.
Mae'r rôl yn cynnwys dylunio a chyflwyno ystod o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys rhaglenni dysgu yn yr ystafell ddosbarth, rhithwir a chyfunol, yn ogystal â chefnogi'r gwaith o gyflwyno gofynion hyfforddiant statudol a gorfodol.
Byddwch hefyd yn cyfrannu at gynllunio datblygu'r gweithlu, yn cefnogi rhaglenni sefydlu, yn gweithio gyda darparwyr hyfforddiant a gomisiynwyd ac yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn adlewyrchu deddfwriaeth, arfer gorau a'r blaenoriaethau sefydliadol cyfredol.
Prif Gyfrifoldebau
- Nodi anghenion hyfforddi a datblygu ar draws y Gwasanaethau Oedolion.
- Dylunio, datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu a datblygu diddorol.
- Cynhyrchu deunyddiau hyfforddi ar gyfer cyflwyno dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein a chyfunol.
- Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu’r cynllun hyfforddiant blynyddol.
- Arwain y gwaith o gydgysylltu a chyflwyno rhaglenni sefydlu ar gyfer staff newydd.
- Gwerthuso gweithgareddau dysgu a mesur eu heffaith ar ymarfer a darparu gwasanaethau.
- Cefnogi Gwasanaethau Oedolion i fodloni gofynion dysgu statudol, gorfodol a phroffesiynol.
- Comisiynu a gweithio ochr yn ochr â darparwyr hyfforddiant allanol lle bo hynny'n briodol.
- Ymchwilio a hyrwyddo dulliau arloesol o ddysgu yn y gweithle.
- Coladu a rhannu ymchwil, diweddariadau deddfwriaeth a gwybodaeth am arfer gorau.
- Cynrychioli Cyngor Caerdydd mewn rhwydweithiau datblygu'r gweithlu rhanbarthol a chenedlaethol.
- Paratoi adroddiadau a chyfrannu at ddatganiadau Llywodraeth Cymru / Gofal Cymdeithasol Cymru yn ôl y galw.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n angerddol am ddatblygu'r gweithlu a gwella canlyniadau i oedolion sydd angen gofal a chymorth.
Bydd gennych:
- Gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
- Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd hyfforddi a datblygu’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Profiad o ddylunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant.
- Gwybodaeth am waith cymdeithasol ac ymarfer gofal cymdeithasol, deddfwriaeth a safonau proffesiynol.
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol.
- Profiad o weithio ar y cyd â sefydliadau partner a rhanddeiliaid.
- Sgiliau trefnu cryf a’r gallu i reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu.
- Sgiliau TG da, gan gynnwys defnyddio platfformau dysgu rhithwir ac offer dysgu digidol.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.
Pam Ymuno â Ni?
Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddatblygiad y gweithlu Gofal Cymdeithasol Oedolion yng Nghaerdydd. Byddwch yn ymuno â thîm cefnogol a phrofiadol sy'n ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd uchel sy'n helpu staff i ffynnu a gwella canlyniadau i ddinasyddion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd barhaol yw hon am 18.5 awr yr wythnos.
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ac yn gofyn eich bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn rhoi gwybod am fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nina Tonge, Rheolwr y Tîm Hyfforddi, E-bost: nina.tonge@caerdydd.gov.uk; Rhif Ffôn: 02920 871111.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein