Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Gweithio fel rhan annatod o’r Tîm Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol. Darparu cymorth iechyd meddwl lefel isel, canolig ac uchel yn unol â’u hanghenion i unigolion sy’n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth er mwyn cynnal neu gyflawni eu canlyniad personol a chefnogi eu hadferiad.
Cyflawnir hyn trwy nodi a gweithredu canlyniadau pwrpasol sy’n canolbwyntio ar gynlluniau gofal a chymorth ar gyfer unigolion. Rhoddir pwyslais ar alluogi defnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaus a difrifol i fyw eu bywydau mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi a’u cymunedau a’u bod yn gallu caffael a / neu gynnal llety diogel a rheoli eu bywydau dydd i ddydd a’u llety’n effeithiol.
Pan fydd unigolyn yn cael ei gyfeirio am y tro cyntaf bydd yn cael ei ddyrannu gan y Cydlynydd perthnasol a fydd yn trafod, cytuno a chynllunio canlyniadau gyda phob unigolyn ar sail anghenion gofal a chymorth. Bydd y Gweithiwr Cymorth yn canolbwyntio ar gefnogi’r unigolyn i gyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn y cynllun gofal a chymorth a’u hadolygu yn unol â’r amserlenni cytunedig.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Seiriol Edwards
Rhif ffôn: 07876257135
Cyfeiriad e-bost: SeiriolEdwards@ynysmon.llyw.cymru