Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a llawn cymhelliant i ymuno â Thîm Safonau Ansawdd o fewn Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau gofal diogel, effeithiol ac o safon uchel ar hyd a lled Conwy. Mae’r rôl yn hollbwysig wrth fonitro, cefnogi a chydweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr gofal a gomisiynwyd, yn cynnwys Cartrefi Preswyl a Nyrsio, Asiantaethau Gofal Cartref, Gwasanaethau Byw â Chymorth 24/7 a Chynlluniau Rhannu Bywydau/Lleoli Oedolion. Trwy sicrhau ansawdd, monitro perfformiad a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol, byddwch yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau yn bodloni gofynion rheoleiddio, yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol, ac yn parhau i wella ar gyfer yr unigolion a chymunedau maen nhw’n eu cefnogi.
Byddwch yn cynnal ymweliadau monitro, archwiliadau ansawdd ac adolygiadau gwasanaeth ar draws gwasanaethau gofal a gomisiynir yng Nghonwy, gan sicrhau bod darparwyr yn darparu cefnogaeth ddiogel, effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Trwy ymgysylltu ag unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a darparwyr gwasanaeth, byddwch yn chwarae rôl bwysig yn gyrru gwelliant parhaus, adnabod a hyrwyddo arfer da, a chefnogi darparwyr i gynnal a gwella safonau gofal.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dealltwriaeth wych o gyfrifoldebau diogelu, a gwybodaeth gadarn am ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, ac sydd â hyder a barn broffesiynol i ddarparu her adeiladol a chefnogaeth ymarferol, gan helpu darparwyr i adnabod meysydd ar gyfer gwelliant a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol yn hanfodol, ynghyd â gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, darparwyr ac asiantaethau partner. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau dadansoddi ac ysgrifennu adroddiadau cryf, gan eich galluogi i werthuso tystiolaeth, adnabod tueddiadau a risgiau, llunio adroddiadau clir a chywir, a gwneud argymhellion gwybodus sydd yn cefnogi gwelliant gwasanaeth parhaus. Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol a phrofiadol sydd yn ymroddedig i hyrwyddo ansawdd, lles a chanlyniadau cadarnhaol i bobl sydd yn dibynnu ar wasanaethau gofal a chymorth. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i wneud gwir wahaniaeth, helpu i sicrhau bod oedolion diamddiffyn yn derbyn gofal diogel, effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn tra’n cyfrannu at welliant parhaus gwasanaethau a gomisiynir ar hyd a lled Conwy.
Mae’r swydd yn golygu teithio ar hyd a lled Sir Conwy, ac ar brydiau gogledd Cymru gyfan i fynd i gyfarfodydd, ymweld â gwasanaethau a gomisiynir ac ystod o leoliadau gofal. Gallai hyn olygu gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol, yn cynnwys yn gynnar yn y bore, gyda’r nosau ac ar benwythnosau yn unol â gofynion y gwasanaeth.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nicola Eccles, Rheolwr Tîm (nicola.eccles1@conwy.gov.uk / 01492 575350)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.