37 awr yr wythnos
Mae cyfle wedi codi yn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gyfer Swyddog Polisi amser llawn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i ddatblygu, adolygu ac adnewyddu polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant. Sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau, canllawiau ac ymarfer perthnasol lleol, Cymru a'r DU.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cydlynu ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a rhoi cyngor a chymorth polisi i Uwch Dimau Rheoli Plant ac Oedolion a staff ar draws y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r rôl, cysylltwch â Kathryn.sillman@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 29 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person