Rhif swydd POSN005374 - Swyddog Prosesu Atgyfeiriadau
Ymunwch â'n Tîm Drws Ffrynt a Helpu i Ddiogelu Plant yng Nghasnewydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Prosesu Atgyfeiriadau ymuno â'n Hwb Diogelu prysur ac ymroddedig ar gontract cyflenwi mamolaeth cyfnod penodol.
Yr Hwb Diogelu yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer atgyfeiriadau sy'n ymwneud â phlant a theuluoedd. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol ac asiantaethau partner, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei derbyn, ei chofnodi a'i phrosesu'n effeithlon, gan helpu i nodi anghenion cymorth a phryderon diogelu cyn gynted â phosibl.
Fel Swyddog Prosesu Atgyfeiriadau, byddwch yn darparu gwasanaeth proffesiynol ac ymatebol, gan sicrhau bod atgyfeiriadau a gwybodaeth yn cael eu cofnodi a'u rhannu'n gywir yn unol â gweithdrefnau.
Bydd y prif ddyletswyddau'n cynnwys:
• Darparu ymateb proffesiynol cyntaf i alwyr a chasglu gwybodaeth berthnasol.
• Derbyn a phrosesu atgyfeiriadau gan ddefnyddio system gofnodi WCCIS.
• Cysylltu â thimau mewnol ac asiantaethau partner i gasglu a phrosesu gwybodaeth.
• Cefnogi'r gwaith o gasglu a chofnodi gwybodaeth perfformiad.
• Trefnu cyfarfodydd, cymryd cofnodion a chefnogi gweithgareddau'r tîm.
• Cynnal systemau, cofnodion a gwiriadau statudol cywir.
• Darparu cefnogaeth weinyddol o safon uchel mewn amgylchedd prysur a chyflym.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n drefnus, yn ddibynadwy ac yn gallu trin gwybodaeth sensitif gyda phroffesiynoldeb a disgresiwn.
Bydd gennych:
• 5 TGAU (A-C) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, NVQ Lefel 2, neu brofiad cyfatebol.
• Profiad gweinyddol blaenorol mewn amgylchedd swyddfa.
• Sgiliau TG cryf, gan gynnwys profiad o ddefnyddio Word, Excel, e-bost a chronfeydd data.
• Profiad o fewnbynnu gwybodaeth i systemau cofnodi electronig.
• Sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmer rhagorol.
• Y gallu i drefnu, blaenoriaethu a gweithio'n effeithiol o dan bwysau.
• Ymrwymiad i gyfrinachedd, gwaith tîm a darparu gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel.
• Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Pam Ymuno â Chyngor Dinas Casnewydd?
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein staff a chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle gall pawb ffynnu. Rydym yn cynnig:
• Arferion gweithio hyblyg a chefnogol.
• Mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu.
• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
• Hawl hael i wyliau blynyddol.
• Mentrau llesiant staff a buddion cyflogeion.
Gwybodaeth Ychwanegol
• Mae hon yn swydd cyflenwi mamolaeth ar gontract cyfnod penodol.
• Mae'r swydd yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
• Nid yw'r swydd wedi'i chyfyngu'n wleidyddol.
Oes Diddordeb Gyda Chi?
Os ydych yn chwilio am gyfle i gyfrannu at wasanaeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a theuluoedd ledled Casnewydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ymunwch â Hwb Diogelu Casnewydd a helpu i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd