Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Rydym ni'n chwilio am weinyddwr penigamp sydd â phrofiad o ddelio â llwyth gwaith trwm ac sy'n gallu ymdopi â gofynion sy'n gwrthdaro.
Ydych chi'n drefnus? Ydych chi'n gallu siarad gyda phobl ar y ffôn? Ydych chi'n gallu gweithio'n rhan o dîm? Ydych chi wedi arfer gweithio'n gyflym?
Yna efallai mai dyma'r swydd i chi!
Mae'r Tîm Pwynt Mynediad Sengl rŵan yn rhan o'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cymorth a Chyngor sy'n helpu aelodau o'r cyhoedd, eu teuluoedd ac unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n eu cefnogi, i gael gafael ar yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.
Ydych chi'n dda am gael yr wybodaeth orau allan o bobl i ymateb i'w ymholiad yn gyflym? Byddwn yn eich darparu â hyfforddiant ac yn eich cefnogi i ddysgu at bwy i gyfeirio'r cwsmeriaid hyn. Byddwch angen llawer o wytnwch personol, ond byddwn yn eich helpu i fagu hyder mewn delio â sefyllfaoedd heriol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol, ac mae'r gallu i sgwrsio'n gartrefol gyda chwsmeriaid yn Gymraeg yn Dymunol ar gyfer y swydd hon.
Wrth lenwi eich ffurflen gais, darparu enghreifftiau sydd yn dangos eich profiad.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Bydd dealltwriaeth o ofal cymdeithasol o gymorth, ond gellir ei dysgu yn ystod eich amser yn y swydd.
Buddion: - Goruchwyliaeth Reolaidd gan eich Rheolwr Tîm - Mynediad i hyfforddiant drwy Ofal Cymdeithasol a rhaglenni hyfforddiant Corfforaethol, yn ogystal â hyfforddiant allanol os yw'n briodol. - Bod yn rhan o sefydliad sy'n sicrhau arferion gweithio diogel a llawn cefnogaeth, drwy bolisïau gweithwyr cadarn. - Mynediad i nifer o fuddio gweithwyr, gan gynnwys Buddion Conwy, a Ffit Conwy. - Gweithio mewn gofod swyddfa pwrpasol, sy'n agos i nifer o siopau, lleoedd bwyd o safon a choffi da!
Siaradwch â ni: Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu hoffech gael gwybod rhagor am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Vanessa Williams, Rheolwr Adain Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. E-bost: Ruth.barr1@conwy.gov.uk Ffôn: 01492 574668
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr