Swyddog Recriwtio a Chadw Rhanbarthol Dros Dro - Maethu Cymru
37 awr yr wythnos
Uned 1, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd
Gallech chi ein helpu ni i gynyddu nifer y rhieni maeth ar gyfer plant yn eich ardal leol.
Dyma rôl y byddwch chi'n angerddol amdani. Bydd modd i chi wneud gwahaniaeth i blant sydd angen rhywle diogel, lleol a chroesawgar - rhywle i'w alw'n gartref. Wrth ddod o hyd i ragor o rieni maeth lleol, gall hynny roi amgylchedd cartref teuluol i blant yn hytrach na lleoliad gofal preswyl ac aros yn lleol yn hytrach na symud ymhell oddi wrth bopeth sy'n gyfarwydd iddyn nhw.
A chithau'n Swyddog Maethu, Recriwtio a Chadw, bydd modd i chi chwarae eich rhan i wella bywydau cymaint o blant a phobl ifainc.
Mae pobl leol sydd â diddordeb mewn bod yn rhiant maeth eisiau siarad â rhywun sy'n gallu ateb eu cwestiynau a deall eu ffordd o fyw. Gan ddefnyddio eich gwybodaeth am blant a’r ardal leol, bydd modd i chi dawelu eu meddyliau, rhannu straeon go iawn am blant mewn gofal (yn enwedig os ydych eisoes wedi gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol, wedi bod yn rhiant maeth, â phrofiad o dderbyn gofal neu wedi bod yn rhan o deulu maethu) ac esbonio pethau mewn modd cryno a chlir.
A chithau'n unigolyn sy'n llawn cymhelliant ac yn drefnus, bydd modd i chi wneud argraff gyntaf dda dros y ffôn, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb, i wneud i bobl deimlo eu bod nhw wedi dewis y bobl iawn i faethu gyda nhw ac i ymddiried yn eu teulu.
Gyda phatrwm gweithio hyblyg, boed hynny gartref weithiau, yn y swyddfa neu allan yn cyfarfod â phobl wyneb yn wyneb yn eich ardal leol, byddwch chi ar gael i ateb cwestiynau bach a mawr. Bydd modd i chi gymryd eich amser i siarad, heb unrhyw bwysau - dydyn ni ddim yn defnyddio technegau gwerthu digywilydd.
Byddwch chi'n 'berson pobl' sydd â’r gallu i wrando a meithrin perthynas ag ef, gan annog pobl o bob cefndir (a allai deimlo eu bod yn cael eu barnu neu eu brawychu), i ymlacio, bod ynddyn nhw eu hunain a chadw sgwrs i fynd. Byddwch chi'n unigolyn a all ddilyn ei daith faethu a gweithio gyda charfan leol Maethu Cymru i ddarparu cymorth parhaus, trefnu achlysuron cymdeithasol a gweithgareddau ymgysylltu eraill ar gyfer holl rieni maeth yr awdurdod lleol.
Mae modd i groeso cynnes a chyfeillgar wneud byd o wahaniaeth i bobl a allai fod yn siarad eu hunain allan o faethu. Gallai eich cefnogaeth, wyneb cyfeillgar a sgwrs fod y gwahaniaeth wrth ddod o hyd i ragor o rieni maeth i blant yn yr ardal leol. A chithau'n bwynt cyswllt cyntaf eich carfan Maethu Cymru lleol, bydd modd i chi arwain pobl ar eu taith i fod yn rheini maeth gwych.
Pe hoffech chi ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r swydd, cysylltwch ag Amy McArdle drwy e-bostio: Amy.mcardle@rctcbc.gov.uk.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.