Swyddog Recriwtio Maethu Cymru
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £32,578 - £34,811 a year (S2) y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Swyddog Ymgysylltu a Recriwtio Maethu
Maethu Cymru Gwynedd
Os ydych yn berson sy'n mwynhau gweithio gyda phobl, sy'n angerddol am feithrin perthnasoedd, ymgysylltu â chymunedau ac ysbrydoli eraill i wneud gwahaniaeth, gallai hon fod yn swydd berffaith i chi.
Maethu Cymru Gwynedd yw gwasanaeth maethu Awdurdod Lleol Gwynedd ac mae'n rhan o Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru nid-er-elw.
Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc ledled Cymru drwy recriwtio a chefnogi gofalwyr maeth lleol.
Byddwch yn ymuno â thîm recriwtio ymroddedig, profiadol ac angerddol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc lleol yn gallu tyfu i fyny mewn cartrefi diogel a chariadus yn agos at y bobl, y lleoedd a'r cymunedau sydd bwysicaf iddynt.
Mae hon yn llawer mwy na swydd recriwtio. Byddwch yn llysgennad gweledol dros faethu ledled Gwynedd, gan helpu i godi ymwybyddiaeth, ysbrydoli darpar ofalwyr maeth a chryfhau cefnogaeth i faethu yn ein cymunedau.
Byddwch yn meithrin perthnasoedd ystyrlon gyda phobl leol, grwpiau cymunedol, ysgolion, busnesau, cyflogwyr a sefydliadau partner, gan greu cyfleoedd i hyrwyddo maethu mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Drwy rwydweithio, meithrin cysylltiadau cymunedol a datblygu partneriaethau, byddwch yn helpu i ddatblygu rhwydwaith o gyflogwyr a sefydliadau sy'n gyfeillgar i faethu, gan annog busnesau i gefnogi gofalwyr maeth a dod yn bartneriaid gwerthfawr i Maethu Cymru.
Byddwch yn hyderus wrth gwrdd â phobl, dechrau sgyrsiau a meithrin ymddiriedaeth. Boed hynny wrth fynychu digwyddiadau cymunedol, siarad â sefydliadau lleol, rhwydweithio â busnesau neu gefnogi ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i ddeall sut y gall maethu drawsnewid bywydau.
Mae'r swydd yn cynnig patrwm gweithio hyblyg, gyda chyfleoedd i weithio gartref, yn y swyddfa ac allan yn y cymunedau ledled Gwynedd. Ni fydd dau ddiwrnod yr un fath wrth i chi ymgysylltu â thrigolion, busnesau a phartneriaid, ateb cwestiynau am faethu a helpu pobl i gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwyr maeth.
Ochr yn ochr â'r tîm Recriwtio presennol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a datblygu'r gwasanaeth, gan adeiladu perthnasoedd cryf a pharhaol gyda'n teuluoedd maeth, cynnal ein cyfraddau cadw gofalwyr maeth, a helpu i recriwtio'r genhedlaeth nesaf o ofalwyr maeth.
Drwy eich sgiliau ymgysylltu cymunedol, adeiladu partneriaethau a rhwydweithio, byddwch yn helpu i greu diwylliant cryfach o gefnogaeth i faethu ledled Gwynedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Melvin Craig Panther ar melpanther@gwynedd.llyw.cymru neu 01286682660.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 02/10/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
•Dealltwriaeth o anghenion plant sy'n derbyn gofal a gofalwyr maeth
•Sgiliau trefnu da a'r gallu i gadw cofnodion cywir a monitro gwybodaeth perfformiad.
•Y gallu i gydweithio ag eraill.
•Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar clir a chywir.
•Sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael eu diwallu drwy ymateb iddynt yn effeithlon ac effeithiol.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant, gan gynnwys cymhwyster proffesiynol.
Dymunol
•Cymhwyster proffesiynol sy’n berthnasol i waith cymdeithasol e.e. iechyd a gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid, gofal plant ac ati.
•Trwydded yrru a mynediad i gerbyd
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad a/neu wybodaeth am wasanaethau maethu a phlant sy'n derbyn gofal.
•Profiad o weithio ar ystod o becynnau TG gan gynnwys Microsoft Word, Excel, Canva.
•Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Dymunol
•Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd.
•Profiad o gasglu a dadansoddi data.
•Profiad o ysgrifennu adroddiadau a/neu asesiadau.
•Profiad o waith ymgynghori.
•Profiad o gydlynu digwyddiadau.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau rhyngbersonol a'r gallu i gyfathrebu ag ystod eang o bobl.
•Bod yn hyblyg, yn gallu newid tasgau/rolau/blaenoriaethau i ddelio â gofynion, newidiadau neu wybodaeth newydd.
•Dangos ymrwymiad i wella a datblygu eich perfformiad eich hun.
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Pwrpas y swydd
•Cefnogi Maethu Cymru i ddarparu arfer gorau ar gyfer ymholiadau gofal maeth yn yr awdurdod lleol.
•Rheoli pob ymholiad maethu a bod yn bwynt cyswllt penodol ar gyfer darpar ofalwyr maeth gan gynnwys prosesu ymholiadau newydd, cwblhau ymweliadau cartref ac ymweliadau cychwynnol cyn asesiad llawn.
•Codi ymwybyddiaeth o faethu yn lleol gan gynnwys cydlynu digwyddiadau a gweithgareddau recriwtio lleol
•Cefnogi swyddogaeth y tîm maethu wrth ddilyn canllawiau i brosesu a pharatoi ymgeiswyr maethu mewn modd amserol a phroffesiynol.
•Rheoli gwybodaeth am ymholiadau a cheisiadau maethu yn effeithiol.
•Cefnogi cadw gofalwyr maeth presennol yr Awdurdod Lleol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Ymdrin â phob ymholiad sy'n ymwneud â maethu recriwtio ar draws yr awdurdod lleol.
•Rheoli ymholiadau maethu mewn modd cynhyrchiol o fewn graddfeydd amser, prosesau a safonau ansawdd y cytunwyd arnynt.
•Cwblhau galwadau recriwtio, ymweliadau recriwtio ac ymweliadau hyfywedd cyn-asesiad cychwynnol gydag ymgeiswyr maethu.
•Cynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig ar y cam hyfywedd cyn-asesiad a gwneud argymhellion ynghylch hyfywedd ymgeiswyr i'r ymarferydd gwaith cymdeithasol.
•Cefnogi ymgeiswyr a rheoli disgwyliadau o ran y safonau gwasanaeth sy'n berthnasol i'r ymholiad.
•Cynorthwyo gyda hwyluso pob gwiriad Cam 1 gydag ymgeiswyr, gan gynnwys DBS, meddygol a geirda.
•Cyfrannu at gydlynu a hwyluso hyfforddiant cyn-cymeradwyo ar gyfer ymgeiswyr maethu.
•Cydweithio â rhwydwaith o Swyddogion Recriwtio ar draws Cymru fel rhan o Maethu Cymru er mwyn cefnogi cydweithio, gwneud y mwyaf o gyfleoedd a rhannu arferion da ac adnoddau.
•Gweithio mewn partneriaeth â'r Swyddog Marchnata Rhanbarthol, gan fod yn gyson â brand Maethu Cymru, er enghraifft darparu gwybodaeth leol ac astudiaethau achos ar gyfer ymgyrchoedd rhanbarthol a chenedlaethol.
•Cadw a diweddaru'r holl gofnodion achos, taenlenni a systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth mewn perthynas ag ymholiadau ac asesiadau maethu.
•Cwblhau holl Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Maethu Cymru mewn perthynas â recriwtio maethu.
•Codi ymwybyddiaeth, ar y cyd a gyda chefnogaeth y Swyddog Marchnata Rhanbarthol, o faethu awdurdod lleol gan gynnwys cydlynu digwyddiadau a gweithgareddau recriwtio lleol.
•Bod yn gyfrifol am greu a chyhoeddi cynnwys addas ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Maethu Cymru XXXXX, ar y cyd â’r Swyddog Marchnata Rhanbarthol, i adeiladu ymwybyddiaeth brand a thyfu ein cymuned ar-lein.
•Datblygu, cynnal a diweddaru cynnwys gwefan Maethu Cymru XXXXXX ar y cyd â'r Swyddog Marchnata Rhanbarthol.
•Ymgysylltu â busnesau lleol er mwyn hyrwyddo Maethu Cymru a'u cefnogi i ddod yn Sefydliadau Maethu Cyfeillgar.
•Cefnogi'r gwasanaethau maethu ehangach mewn perthynas â chadw gofalwyr maeth, gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd.
•Datblygu ymgysylltiad â gofalwyr maeth, gan gynnwys ymarferion ymgynghori.
•Datblygu ymgynghoriad gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
•Rheoli trefniadau eich llwyth achosion eich hun o ddydd i ddydd a gweithio’n unol â pholisïau, gweithdrefnau a blaenoriaethau adrannol
•Cynnal gwybodaeth ymarferol gyfredol o flaenoriaethau lleol a chenedlaethol mewn perthynas â gwasanaethau maethu.
•Gweithio mewn modd proffesiynol a phortreadu delwedd gadarnhaol o Maethu Cymru.
•Casglu a lledaenu gwybodaeth yn gywir i'r tîm gwaith cymdeithasol ehangach.
•Cydgysylltu â'r tîm gwaith cymdeithasol ehangach a staff cymorth busnes i ddatrys ymholiadau/cwynion cwsmeriaid.
•Cynnal perthynas waith dda gyda chydweithwyr ac adrannau eraill o'r Cyngor, gan gynnwys Cyfathrebu Corfforaethol, a sefydliadau allanol, ar bob mater sy'n ymwneud â maethu.
•Paratoi ar gyfer sesiynau goruchwylio a gwerthuso staff unigol a chymryd rhan ynddynt, gan gynnwys nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gwaith yr arweinydd Recriwtio yn cynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa yn rheolaidd i ddiwallu anghenion recriwtio'r Gwasanaeth.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein