Swyddog Symud gydag Urddas
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £44,075 - £46,142 a year (PS3) y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Cyfle cyffroes i weithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws Wynedd, er mwyn sicrhau fod Unigolion yn derbyn cefnogaeth symud a thrin cyfatebol.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sian Le Bon ar 07970 863 137 (ddim yn gweithio wythnos cychywn 25/05).
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 04/06/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Gweithio mewn modd wrth-wahaniaethol.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau
newydd a creadigol wrth ddatrys problemau.
Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, asiantaethau
eraill a darparwyr.
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y
gwasanaeth.
Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu.
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n
defnyddio gwasanaethau, plant a theuluoedd.
Yn ymroddedig i hyrwyddo a chefnogi annibyniaeth yn y cartref.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster Therapi Galwedigaethol cydnabyddedig –
Gradd neu Diploma mewn Therapi Galwedigaethol.
Wedi cofrestru gyda Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Cymhwyster Symud a Thrin (Pasbort Symud a Thrin, Hyfforddiant BTEC -
Hyfforddi’r hyfforddwyr mewn Symud a Thrin neu hyfforddiant gyfatebol).
Dymunol
Cymhwyster gofal maint cywir (right sized care)/symud gyda urddas.
Aelod o Gymdeithas Brydeinig y Therapyddion Galwedigaethol.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio fel Therapydd Galwedigaethol.
Profiad o weithio yn amlddisgyblaethol.
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a
theuluoedd.
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol.
Profiad o gynnal asesiadau ac adolygiadau symud a thrin yn ymwneud â
symud gyda urddas/gofal maint cywir (right sized care).
Dymunol
Profiad o weithio mewn Awdurdod Lleol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Profiad o weithredu egwyddorion symud gyda urddas/o'r gofal maint cywir
(right size care).
Profiad o hyfforddi unigolion, teulu a staff gofal wrth ddefnyddio ystod o offer
symud a thrin.
Trwydded yrru llawn.
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn
addas.
Profiad o asesu anghenion symud a thrin unigolion a rheoli risgiau'n effeithiol.
Ymroi i hyrwyddo annibyniaeth pobl o fewn eu cartref eu hunain.
Gallu cynllunio, monitro ac adolygu anghenion symud a thrin unigolion.
Cyfathrebu'n effeithiol (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal,
dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu gweithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Yn dda am gadw amser.
Gallu cyfrannu at gynllunio a datblygu'r gwasanaeth.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag
anghenion gwasanaeth.
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y
gwasanaeth a datblygiad personol.
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Pwrpas y swydd
•Bwriad y Gwasanaeth Integredig Oedolion yw: “fy ngalluogi i fyw fy mywyd fel rwyf yn ei ddymuno”.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
•Chwarae rhan ymgynghorol ar faterion Symud gyda Urddas.
•Hybu strategaeth a polisi Symud gyda Urddas o fewn y gwasanaeth ac i wasanaethau allanol, unigolion ac eu teuluoedd.
•Dilyn strategaeth a polisi Symud gyda Urddas gan gwblhau asesiadau ac adolyiadau symud a thrin cymhleth, hwyluso rhyddhau amserol o'r ysbyty, ymchwilio mewn i dechnegau ac offer priodol er mwyn hyrwyddo symud gyda urddas (gan anelu tuag ar ofal sengl), cyd-weithio gyda Therapyddion Galwedigaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a darparu'r hyfforddiant perthnasol i unigolion, eu teuluoedd a staff gofal.
•Asesu anghenion unigolion a’u gofalwyr yn unol a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
•Darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i unigolion i’w galluogi i gwrdd ac amcanion personol.
•Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth.
•Darparu gwybodaeth ynglyn a’r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cygor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi i’r unigolion i fyw mor annibynnol a phosib a gwella eu ansawdd bywyd i’r eithaf.
•Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol a threfniadau diogelu y Cyngor a’r cyfrifoldebau statudol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff - Dim cyfrifoldebau rheoli uniongyrchol ond mae disgwyliad i weithio fel rhan o dîm drwy ddarparu hyfforddiant symud gyda urddas, a chefnogi a mentora cyd-weithwyr.
•Cyllideb - Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr y gwasanaeth er mwyn hwyluso rheolaeth gyllidol y Gwasanaeth yn effeithiol.
•Offer - Cyfrifoldeb dros holl offer arbenigol sy'n cael ei ddefnyddio i gyflawni'r swydd. Arddangos y defnydd gorau o adnoddau o ran darpariaeth addasiadau ac offer priodol, a darparu gwasanaeth yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau. Cyfrifoldeb dros oriadau'r storfa lle cedwir yr offer.
Prif ddyletswyddau
•Gweithio fel rhan o dîm integredig aml ddisgyblaethol a pharchu'r sgiliau, arbenigedd a chyfraniadau cydweithwyr o fewn y tîm. Cymryd cyd-gyfrifoldeb i sicrhau gweithio mewn modd integredig.
•Cydweithio gyda phob Adran o fewn y Cyngor a phartneriaid eraill sydd â chyfraniad i'w wneud i sicrhau bod unigolion yn cwrdd â’u canlyniadau llesiant.
•Cynrychioli'r awdurdod lleol mewn cyfarfodydd perthnasol.
•Cyfathrebu mewn modd agored a gwybodus drwy addasu i wahanol gynulleidfaoedd a chyflwyno penderfyniadau proffesiynol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
•Rheoli defnydd effeithlon o adnoddau gan gynnwys sgiliau a gwybodaeth staff.
•Cyfrannu at ac arwain ar brosiectau yn lleol ac yn rhanbarthol.
•Sefydlu a chynnal cysylltiadau gydag adnoddau cymunedol. Ymchwilio a chryfhau gwybodaeth am adnoddau cymunedol sy'n bodoli'n lleol.
•Datblygu a chynnal perthynas weithio effeithiol o safon uchel sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch, gydag ystod eang o gyd-weithwyr ac asiantaethau allanol, gan gynnwys y drydedd sector a sefydliadau gwirfoddol, darparwyr gofal a chymunedau.
•Dangos lefel uchel o hyfedredd clinigol a chyfrannu at brosiectau datblygu gwasanaeth o fewn y tîm Therapi Galwedigaethol.
•Adnabod datrysiadau ar gyfer goresgyn rhwystrau. Adrodd ar rwystrau na ellir eu goresgyn yn lleol i'r arweinydd.
•Gwneud defnydd o dechnoleg gwybodaeth i hwyluso darpariaeth gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
•Bod yn agored i gynnig a chyflawni syniadau a ffyrdd newydd o weithio.
•Gweithio mewn modd ataliol er mwyn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau.
•Defnyddio eich hunain fel adnoddau pan nad oes adnoddau eraill ar gael.
•Hyrwyddo strategaeth a polisi Symud gyda Urddas i’r gweithlu, unigolion, gofalwyr a teuluoedd.
•Dadansoddi natur, lefel brys ac oblygiadau unrhyw risgiau sydd wedi eu nodi ac ymateb yn briodol ac amserol.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso.
•Sicrhau bod yr hyn sy'n bwysig i'r dinesydd yn ganolog i bopeth a bod pob ymateb yn gyfesur ac wedi ei deilwra i gwrdd a’r hyn sy’n bwysig i’r dinesydd.
•Hyrwyddo hawliau a buddiannau unigolion, aelodau teulu, gofalwyr, partneriaid a phobl eraill sy'n agos neu bwysig i'r unigolyn.
•Cynnal a chofnodi asesiadau symud a thrin cymhleth a chynhwysfawr, ynghyd ag unrhyw asesiad arbenigol arall sydd yn ymwneud â symud a thrin, yn unol â strategaeth a polisi Symud gyda Urddas, chanllawiau a deddfwriaeth, er mwyn rheoli risg i’r unigolyn a’r gofalwyr.
•Darparu ac arddangos y defnydd o dechnegau neu offer arbenigol i unigolion, gofalwyr/teuluoedd.
•Gweithio gydareps er mwyn cynyddu gwybodaeth arbenigol a cael offer arbenigol i’r unigolion.
•Fel rhan o asesiad symud a thrin asesu a chyfeirio am mân addasiadau, addasiadau mawr ac addasiadau strwythurol cymhleth (gan gynnwys estyniadau). Ystyried yr angen am lety priodol. Sicrhau bod yr addasiad yn cael ei gwblhau i'r safon ddisgwyliedig sy'n cwrdd â'r angen.
•Cyfeirio ymlaen i’r trydydd sector, proffesiynau eraill (e.e. Ffisiotherapydd) pan bo’r angen.
•Darparu hyfforddiant Symud gyda Urddas i Therapyddion Galwedigaethol a gofalwyr.
•Sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw drefniadau rheoli risg a nodwyd mewn asesiadau risg sy'n berthnasol i'r gwaith.
•Adolygu a chofnodi cynlluniau symud a thrin cymhleth a chynhwysfawr yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth gofal yn diwallu amcanion personol yr unigolyn.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith symud a thrin cymhleth.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
•Hwyluso rhyddhau o'r ysbyty ar gyfer unigolion ag anghenion symud a thrin cymhleth trwy gydweithio gyda swyddogion proffesiynol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
•Cadw perchnogaeth achosion. Ymgymryd â chyfrifoldebau cydlynydd gofal drwy 'ddwyn i mewn' arbenigedd pan a phryd fo angen.
•Sicrhau bod offer yn cael ei ddychwelyd pan nad oes ei angen mwyach.
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig gyda Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chadw portffolio o dystiolaeth datblygiad proffesiynol parhaus. Datblygu ymarfer trwy oruchwylio a myfyrio.
•Cymryd rhan weithredol mewn sesiynau personol a grŵp rheolaidd ac yn y broses werthuso flynyddol.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cofnodi'n gywir, yn gymesur ac amserol i sicrhau fod ein systemau cofnodi integredig yn gyfredol.
•Bod yn atebol am ansawdd y gwaith a chymryd cyfrifoldeb am gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau.
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
•Asesu a nodi galluedd meddyliol unigolion yn unol â gofynion y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
•Bod yn ymwybodol o'r camau y dylid eu cymryd mewn sefyllfaoedd o honiadau o niwed neu gam-driniaeth yn unol ag adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Cwblhau archwiliadau i honiadau camdriniaeth.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayyb. Deddf 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Ymrwymo i ddarparu gofal cwsmer o safon uchel ac i helpu pobl yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau a safonau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio yn ystod oriau anghymdeithasol pan a phryd fo angen.
•Rhoddir ystyriaeth i ymestyn oriau agor y gwasanaeth yn ystod yr wythnos, yn ogystal â gweithio ar benwythnosau.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan mewn unrhyw drefniadau rota fydd yn cael eu sefydlu.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein