Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cefnogi Tîm System a Pherfformiad Gwasanaethau Plant ac Oedolion i gynnal a chadw a datblygu’r holl systemau busnes TG o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol a darparu lefel uchel o gymorth technegol a gweithredol i ddefnyddwyr terfynol.
Cynorthwyo i datblygu a gwella’n barhaus swyddogaethau a phrosesau’r System Rheoli Gofal Cymdeithasol (Mosaic/Access ac unrhyw systemau perthnasol eraill y gallai’r Gwasanaethau Cymdeithasol eu defnyddio h.y. WCCIS, RAISE).
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel Safonol boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Emma Edwards
Rhif ffôn: 01248 751887
Cyfeiriad e-bost: emmaedwards@ynysmon.llyw.cymru