Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1144
Sefydliad: Llesiant Delta
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Achlysurol
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd F
Cyflog: £27,711
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £14.36
Oriau Contract:
Dewch i ymuno â'n tîm Ydych chi'n ffynnu mewn amgylcheddau deinamig, cyflym lle mae pob diwrnod yn cyflwyno heriau a chyfleoedd newydd i helpu eraill? Os felly, hoffem glywed gennych.
Rydym yn chwilio am unigolion gofalgar, hyblyg a brwdfrydig sy'n gweithio'n dda mewn tîm i ymuno â'n tîm ymateb cymunedol a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd mewn angen.
Mae Llesiant Delta yn gwmni masnachu awdurdod lleol sydd wedi ennill gwobrau ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal trwy gymorth technoleg (TEC), gan ddefnyddio technoleg arloesol i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol. Mae'r cwmni wedi tyfu'n sylweddol ers ei sefydlu yn 2018 ac mae'n darparu gwasanaeth monitro galwadau dwyieithog 24/7 a gwasanaethau eraill, gan gynnwys monitro larymau teleofal a theleiechyd, gosod Gofal trwy Gymorth Technoleg, ymateb lles cymunedol, monitro gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain a chymorth mewn argyfwng y tu allan i oriau arferol ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymdeithasau tai, lleoliadau addysgol, cwmnïau preifat a phreswylwyr.
Fel aelod allweddol o'n tîm, byddwch ar flaen y gad o ran darparu cefnogaeth a chymorth hanfodol i unigolion yn ein cymuned fel rhan o fodel cyffrous o wasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) rhagweithiol. Rydym yn wasanaeth rheoleiddiedig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n ein galluogi i ddarparu cymorth cofleidiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i'n defnyddwyr.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o safon uchel, gan sicrhau bod pob person yn derbyn y gofal a'r parch y maent yn eu haeddu. Byddwch yn ymateb i alwadau brys ac yn darparu gwasanaeth priodol ac effeithiol i unigolion yn eu cartref eu hunain, gan hyrwyddo annibyniaeth, urddas a chymorth. Nod y gwasanaeth hwn yw osgoi derbyniadau i'r ysbyty heb eu cynllunio ar gyfer pobl y gellid eu cadw a'u cefnogi'n ddiogel gartref, yn ogystal â galluogi pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty cyn gynted â phosibl.
Bydd gan ymgeiswyr angerdd dros helpu eraill, gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag ystod o bobl, gwneud penderfyniadau prydlon a'r gallu i aros yn ddigyffro wrth ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth gydag empathi, doethineb a disgresiwn.
Mae trwydded yrru lawn yn y DU yn hanfodol, ynghyd ag NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu barodrwydd i weithio tuag at y cymhwyster, a'r hyblygrwydd i weithio sifftiau. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o gyfrifiaduron a sgiliau teipio medrus.
Nid oes angen profiad meddygol; fodd bynnag, mae rhywfaint o brofiad ymarferol yn y sector gofal yn ddymunol, ynghyd ag ymwybyddiaeth o'r materion sy'n gysylltiedig â gweithio gyda phobl oedrannus neu bobl agored i niwed a gwybodaeth am ofal cymdeithasol, a/neu wasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod lleol.
Mae Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol gan y rhoddir cymorth llawn i gyflawni hyn.
Byddwch yn derbyn rhaglen hyfforddiant sefydlu gynhwysfawr a hyfforddiant parhaus i'ch helpu i ddatblygu.
Y Manteision- Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
- Mae'n drosedd i rywun wneud cais am waith neu wirfoddoli am waith y mae wedi'i wahardd rhag ei wneud drwy restrau gwahardd y DBS.
Ymunwch â thîm ymroddedig sy'n cael effaith ystyrlon bob dydd. I gael rhagor o wybodaeth neu i gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Natalie Hart drwy ffonio 0300 333 2222 neu drwy e-bostio Natalie.Hart@deltawellbeing.org.uk
Disgrifiad Swydd: Bilingual - PG1371 - DW Response Officer Casual.pdf - 314KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 23 Ionawr 2025
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 15/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.