32.5 awr yr wythnos
Amser tymor
Tymor Penodol hyd at 31 Mawrth 2027.
3 swydd ar gael
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda phartneriaid, wedi datblygu fframwaith ar gyfer dull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn rhan o dîm ardal amlbroffesiynol o weithwyr rheng flaen sy'n ymwneud ag ymyrryd yn gynnar a gwaith cymorth gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol a llawn cymhelliant sydd â sgiliau trefnu a rhyngbersonol gwych i weithio fel rhan o'r tîm ymgysylltu ag addysg. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad llwyddiannus o weithio gyda phlant oedran ysgol gynradd a'u teuluoedd mewn lleoliad ysgol a'r tu allan i oriau ysgol gydag ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd amlasiantaethol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 22 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 31 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person