Swyddog Ymgysylltu, Cyfranogi ac Ymgynghori Cenedlaethol
Gradd 11
Dyma gyfle cyffrous i ymgeisydd addas ymuno â Chonsortiwm Comisiynu Plant Cymru i gyflawni swydd newydd, sef Swyddog Ymgysylltu, Cyfranogiad ac Ymgynghoriad Cenedlaethol. Mae'r garfan yn darparu gwasanaeth comisiynu cenedlaethol i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn rheoli Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer lleoliadau gwaith ym meysydd Maethu Annibynnol a Phreswyl.
Byddwch chi'n rhan o garfan ymroddedig sy'n canolbwyntio ar sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifainc. Llais y plentyn sydd wrth graidd popeth rydyn ni'n ei wneud yng Nghonsortiwm Comisiynu Plant Cymru. Mae'r Nod Barcud Cyfranogiad Cenedlaethol ar waith, a hefyd Rhaglen Comisiynwyr Ifainc sydd wedi’i hen sefydlu er mwyn ymgysylltu â phlant rhwng 6 oed hyd at y rhai sy'n gadael gofal, sy'n byw â rhiant maeth neu mewn cartref plant yng Nghymru.
CBSRhCT sy’n cynnal y Garfan ac mae’r garfan wedi'i lleoli yn Uned 5, Merthyr Tudful. Fodd bynnag, rydyn ni'n cefnogi gweithio o bell. Bydd gofyn i chi deithio ledled Cymru yn rhan o'r swydd yma, gan weithio'n uniongyrchol â phlant a phobl ifainc sy'n byw mewn lleoliadau amrywiol.
Bydd yr ymgeiswyr yn cefnogi a galluogi ein Comisiynwyr Ifainc i gymryd rhan yn effeithiol ac yn cael dylanwad ar y Consortiwm Comisiynu Plant Cymru a pholisi cenedlaethol drwy weithio â nifer o bartneriaid strategol. Bydd angen gweithio'n hyblyg ar gyfer y swydd yma, ac mae disgwyl i chi weithio gyda'r nos, dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol ar adegau.
Bydd ymgeiswyr yn arddangos profiad o weithio â phlant a phobl ifainc, a phrofiad o ddefnyddio gwaith cyfranogi ac ymgynghori i ddylanwadu ar wasanaethau a’u gwella. Bydd y gwaith yn ddelfrydol i'r unigolion hynny sy'n cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd amrywiol drwy ddefnyddio cyfryngau gwahanol yn greadigol, y rhai sydd ag ethos cryf o hyrwyddo cynhwysiant a chefnogi amrywiaeth, a'r rhai sy'n gweithio'n dda yn rhan o garfan ac yn meddu ar y gallu i weithio'n annibynnol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddianus Radd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (neu gymhwyster cyfwerth) a phrofiad o weithio ym maes Gwaith Ieuenctid neu Wasanaethau i Blant. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ledled Cymru ac mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Sarah Mee, Swyddog Comisiynu Strategol Cenedlaethol y Consortiwm Comisiynu Plant Cymru ar (01443) 570098
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.