Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae Teulu Môn yn wasanaeth cynhwysol ar Ynys Môn sy’n gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob Oedolyn, Plentyn, Teulu a gweithiwr proffesiynol er mwyn derbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag Oedolion, Plant a Theuluoedd ar Ynys Môn. Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o dîm, gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf croesawus a gwybodus. Mae’r rôl yn gofyn i ddeilydd y swydd ymateb yn sensitif ac yn effeithiol i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cysylltu â’r Adran a sicrhau mynediad llyfn i’r ddwy adran, gweithwyr iechyd yn y Timau Oedolion ac unrhyw wasanaethau perthnasol eraill.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau fod yr holl brosesau perthnasol sydd ar waith yn cael eu dilyn yn unol â’r terfynau amser a bennwyd, er mwyn sicrhau bod oedolion a phlant yn cael eu diogelu a bod y broses yn gweithio’n effeithiol.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Mari Roberts
Rhif ffôn: 01248 725888
Cyfeiriad e-bost: MariWRoberts@ynysmon.llyw.cymru