26 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor
A ydych yn unigolyn hyderus, rhadlon ac egnïol sy'n angerddol am gael effaith gadarnhaol ar deuluoedd a chymunedau? Os felly, mae gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tremains gyfle cyffrous i chi fel Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a Grantiau.
Mae Ysgol Gynradd Tremains yn ymrwymedig i gynorthwyo teuluoedd a grymuso cymunedau. Credwn fod ymgysylltu cryf â theuluoedd a mynediad at grantiau yn gydrannau hanfodol wrth greu newid parhaol a gwella bywydau unigolion a theuluoedd. Ein cenhadaeth yw meithrin cydweithredu, darparu adnoddau a hyrwyddo llesiant teuluoedd drwy raglenni a mentrau arloesol.
A chithau'n Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a Grantiau, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau cyfleoedd cyllido i gynorthwyo ein mentrau a gwella ymgysylltu â theuluoedd yn yr ysgol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cymunedol, teuluoedd a sefydliadau sy'n rhoi grantiau i hyrwyddo ymgysylltu, nodi ffynonellau cyllid a datblygu cynigion grant llwyddiannus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Meithrin a chynnal perthnasoedd cryf â theuluoedd, aelodau o'r gymuned a sefydliadau partner;
Meddu ar brofiad o arwain/hwyluso/monitro a gwerthuso mentrau i rieni a theuluoedd mewn lleoliad ysgol/cymuned;
Gweithredu fel cyswllt rhwng teuluoedd a'r ysgol gan sicrhau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol;
Cynnal gweithgareddau allgymorth i nodi cyfleoedd grant posibl a sefydlu cysylltiadau â sefydliadau sy'n rhoi grantiau;
Ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno cynigion grant cymhellol i sicrhau cyllid y prosiectau;
Rheoli a chynnal cofnodion grantiau cywir gan gynnwys adroddiadau cynnydd, cyllideb a'r dogfennau gofynnol;
Meddu ar NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cyfwerth;
Bod yn frwdfrydig am siarad â theuluoedd ac ymgysylltu â hwy a bod yn hyblyg yn eu dull o ran gofynion amrywiol y rôl hon;
Bod yn hyblyg a gallu gweithio ar eu menter eu hunain;
Meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd gwych;
Bod yn hyderus ac yn rhadlon.
Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 08 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 23 Hydref 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person