Rydym yn profi rhai materion technegol a allai eich atal rhag mewngofnodi neu ddefnyddio rhannau o'r wefan. Rydym wrthi'n gweithio ar ddatrys y materion hyn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi.
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Swyddog Ymyrraeth Camfanteisio'n ar Blant Swydd-ddisgrifiad Am y swydd:
Mae'n adeg gyffrous iawn i ymuno â Gwasanaethau Plant Powys fel Gweithiwr Ymyrraeth, fel aelod o'r Tîm Camfanteisio ar Blant. Byddwch yn rhan o dîm bach ond ymroddedig gyda mynediad at hyfforddiant rheolaidd a chefnogaeth ym maes llesiant. Rydym yn cynnig dull o weithio hyblyg cymysg gartref ac mewn Swyddfeydd y Cyngor, yn ogystal ag amser rheolaidd gyda'n gilydd fel Tîm.
Amdanoch chi:
- Byddwch yn angerddol ynghylch diogelwch a llesiant plant.
- Parodrwydd i ddatblygu eich addysg a'ch arbenigedd mewn diogelu, adnabod ac ymateb i gamfanteisio.
- Hyderus wrth ddefnyddio Microsoft gan gynnwys Outlook a Teams.
- Gallu cyfathrebu'n glir ac mewn ffordd addasol.
- Gallu rhannu gwybodaeth ysgrifenedig sy'n glir ac yn gryno.
- Gallu gweithio fel aelod o dîm ac o bell.
- Dealltwriaeth gadarn o ran cymwysedd digidol i ategu codi ymwybyddiaeth ar draws cynulleidfaoedd amrywiol.
Eich dyletswyddau:
- Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd. Cydgynhyrchu cynlluniau ymyrraeth a mesurau arwyddocaol i hyrwyddo canlyniadau mwy diogel.
- Magu cysylltiadau agored, onest ac arwyddocaol gyda phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
- Cefnogi llais y plentyn a'r teulu oddi mewn cyfarfodydd amlasiantaeth.
- Cofnodi gwybodaeth a seilir ar dystiolaeth mewn ffordd amserol ar draws fformatau amrywiol, megis ar ffurf nodiadau ac adroddiadau achos.
- Datblygu a hwyluso ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ar draws ysgolion ac yn y gymuned.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, croeso ichi gysylltu â:
Child.exploitation@powys.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr