Rhif swydd. POSN004553 -Symudol Dirprwy Reolwr – Gwasanaethau i Oedolion
Ydych chi'n chwilio am rôl arwain ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle nad oes dau ddiwrnod yr un peth? Ymunwch â ni fel Dirprwy Reolwr yn ein Tîm Symudol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan ddarparu gofal preswyl a chefnogaeth ar draws 4 Cartref Preswyl Casnewydd lle mae pobl yn dod yn gyntaf.
Y TÎM
Byddwch yn ymuno â'n Tîm Darparu Gofal a Chymorth, grŵp o weithwyr proffesiynol ymroddedig sy'n darparu gofal o ansawdd uchel ar draws cartrefi preswyl oedolion a gwasanaethau egwyl fer Casnewydd. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i greu amgylcheddau diogel, cefnogol lle gall preswylwyr fyw gydag urddas ac annibyniaeth.
Fel rhan o'r Tîm Symudol, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cynnal parhad a safonau ar draws y pedwar cartref. Byddwch yn cydweithio â rheolwyr, staff gofal, a gweithwyr iechyd proffesiynol i sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg yn esmwyth, yn enwedig yn ystod cyfnodau o absenoldeb neu alw cynyddol.
EICH RÔL NEWYDD
Eich rôl yw helpu i reoli a chydlynu gwasanaethau, gan sicrhau gofal o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n bodloni safonau rheoleiddio. Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am wasanaeth pan fo angen ac yn gweithio'n hyblyg ar draws 4 Cartref Preswyl i gefnogi'r Rheolwyr Cartrefi Preswyl i gynnal ac ysgogi cydymffurfio â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n rôl wirioneddol hyblyg ac amrywiol fydd yn eich gweld yn gweithio patrwm shifft o bump allan o saith diwrnod, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc (rhwng 06:45 am a 10:15 pm)
Mae hon yn rôl ddeinamig sy'n cynnig amrywiaeth a'r cyfle i adeiladu perthnasoedd cryf ar draws timau gwahanol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan gydweithwyr profiadol ac yn cael mynediad at hyfforddiant a datblygiad parhaus i'ch helpu i dyfu yn eich gyrfa arwain.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
• Arwain ac ysgogi staff i ddarparu gofal rhagorol
• Sicrhau cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor
• Goruchwylio derbyniadau, rhyddhau, a chynllunio gofal
• Rheoli systemau meddyginiaeth a chefnogi cynllunio bwydlenni
• Adeiladu perthnasoedd cryf gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, teuluoedd ac eiriolwyr
• Cefnogi recriwtio, hyfforddiant a datblygu staff
• Cynorthwyo gyda rotas, cyllidebau a rheoli adnoddau
• Cymryd cyfrifoldeb am weithrediadau gwasanaeth pan fo angen
YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
• Yn meddu ar Ddiploma Lefel 5 mewn Arwain Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Oedolion Preswyl) neu gymhwyster cyfatebol
• Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Â phrofiad o reoli neu oruchwylio mewn lleoliad gofal.
• Yn deall deddfwriaeth diogelu a gofal cymdeithasol allweddol
• Yn gallu arwain timau, rheoli gofynion cystadleuol, a chyfathrebu'n effeithiol
• Yn hyblyg, yn ddibynadwy, ac yn gallu teithio ar draws y pedwar cartref
YR HYN Y BYDDWCH YN EI GAEL
Yn ogystal â'r cyfle i ymgymryd â rôl sy'n amrywiol, yn werth chweil ac yn llawn cyfleoedd i dyfu, dyma’r hyn y byddwch chi'n ei fwynhau:
• Cynllun cyfraniadau pensiwn hael.
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol gyda’r opsiwn i brynu hyd at wythnos o wyliau blynyddol ychwanegol.
• Cyfleoedd helaeth ar gyfer twf, dilyniant a datblygiad.
• Cyfleoedd i ymuno ag amrywiaeth o Rwydweithiau Staff sy'n cynnwys gweithgorau sy'n cefnogi diwylliant agored ac amrywiol y Cyngor.
Unrhyw gwestiynau? Gellir cael rhagor o fanylion drwy gysylltu â Sian Nicholls, Rheolwr Tîm drwy e-bostio sian.nicholls@newport.gov.uk
Ydych chi’n barod am rôl arwain sy'n amrywiol, yn hyblyg, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn? Gwnewch gais heddiw ac ymunwch â thîm sy'n rhoi pobl yn gyntaf.
Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a chynhelir proses sgrinio gynhwysfawr ar gyfer pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd