G09 £35,745 - £38,223 y flwyddyn (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
G10 £39,186 - £42,403 y flwyddyn (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Parhaol
Mae gan y Tîm ar gyfer Pobl HÅ•n gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol ymuno â thîm arloesol a blaengar.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddull aml-asiantaeth y tîm, gan ddarparu gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles di-dor ar gyfer pobl hyn, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Byddwch yn gweithio gydag unigolion er mwyn iddynt allu adnabod eu canlyniadau personol. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'u rhwydweithiau cefnogaeth gan gynnwys teuluoedd i hyrwyddo annibyniaeth a sicrhau bod gan yr unigolyn lais cryfach wrth wneud penderfyniadau a mwy o reolaeth yn eu bywydau. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
• Cefnogaeth wych i gydweithwyr a morâl tîm cadarnhaol, gan gynnwys cefnogaeth mentor i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.
Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus
Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio'n hyblyg a rhannu swydd
Llwyth achos y gellir ymdopi ag o.
Sylwch nad allwn ni gyflwyno tystysgrifau nawdd.
I gael ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â Amanda Squire, Rheolwr Tîm ar 07802 378674 neu e-bost Amanda.Squire@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.