Cyfnod penodol am 2 flynedd
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'n Tîm Lleoli o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fel prentis. Gan weithio mewn amgylchedd proffesiynol a chefnogol, byddwch yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i ganfod lleoliadau maeth a sicrhau lleoliadau preswyl addas i blant a phobl ifanc.
Yn y rôl amrywiol hon, byddwch yn cefnogi prosesau lleoli trwy gadw cofnodion cywir, cynorthwyo gyda’r gwaith o chwilio am leoliadau, a chyfathrebu â gofalwyr maeth a darparwyr allanol. Byddwch yn ennill profiad ymarferol drwy ddefnyddio systemau, a chefnogi gwaith y tîm dyletswydd o ddydd i ddydd, gan helpu i sicrhau bod lleoliadau'n cael eu trefnu mewn modd effeithlon ac effeithiol.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd ag agwedd gadarnhaol, sylw cryf i fanylder a pharodrwydd i ddysgu. P'un a ydych chi'n dechrau ar eich llwybr gyrfa neu'n ystyried ailhyfforddi, mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau gweinyddol ymarferol, ennill profiad gwerthfawr yn y maes gwasanaethau plant, a chwblhau cymhwyster prentisiaeth gydnabyddedig.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Salli Moreton, Arweinydd Datblygu Gyrfa a Phrentisiaethau ar 01633 647271 - neu drwy e-bost salli.moreton@torfaen.gov.uk
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.