Lleoliad gwaith: Llys y Coed, Llanfairfechan
Gwnewch Wahaniaeth Tra Bod Eraill yn Cysgu
Mae Llys y Coed yn Gynllun Tai Gofal Ychwanegol sy'n cefnogi pobl dros 60 oed i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gyda chymorth pecynnau gofal a gwasanaethau cefnogi wedi'u teilwra i'w hanghenion.
Rydym yn chwilio am unigolyn gofalgar, brwdfrydig a hyderus i ymuno â'n tîm fel Gweithiwr Cefnogi Nos.
Ynglŷn â'r Swydd
Fel Gweithiwr Cefnogi Nos, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cymorth, sicrwydd a chefnogaeth i denantiaid drwy gydol y nos. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys:
- Darparu gofal a chymorth sydd wedi'u trefnu i helpu pobl gyda'u harferion gyda'r nos ac yn y bore.
- Ymateb yn brydlon i alwadau brys drwy system alwadau brys y cynllun.
- Darparu cymorth ymarferol a sicrwydd i denantiaid pan fo angen.
- Ymateb yn briodol i faterion sy'n ymwneud â'r adeilad ac uwchgyfeirio pryderon pan fo angen.
- Cynnal cofnodion cywir a sicrhau bod pob cymorth yn cael ei ddarparu mewn ffordd berson-ganolog a phroffesiynol.
Mae hon yn swydd lle bydddwch yn gweithio ar eich pen eich hun, felly mae'n hanfodol eich bod yn gallu gweithio'n annibynnol, aros yn dawel o dan bwysau, a gwneud penderfyniadau cadarn pan fo angen.
Oriau Gwaith
- Patrwm gwaith: 4 noson ymlaen / 4 noson i ffwrdd
- Oriau: 10:00pm – 7:45am
- Oriau wythnosol cyfartalog: 34 awr
- Telir lwfans ychwanegol am weithio oriau anghymdeithasol.
Beth Rydym yn ei Gynnig
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr a hyfforddiant parhaus.
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
- Swydd werth chweil lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
- Tîm a rheolwyr cefnogol.
Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano
Rydym yn chwilio am rhywun sydd:
- Yn ofalgar ac yn dosturiol eu agwedd.
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Yn ddibynadwy, yn hyblyg ac yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun.
- Yn rhannu ein hymrwymiad i hyrwyddo annibyniaeth, urddas a llesiant.
Gofyniad Hanfodol
Mae gwiriad DBS Manwl (Enhanced DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Os ydych yn angerddol am gefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol ac yn awyddus i ymgymryd â rôl werth chweil yn ystod y nos, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Julie Clarke, Rheolwr (julie.clarke@conwy.gov.uk / 01492 577955)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.